Ganwyd yn Glyn Ceiriog - efallai mai ef yw'r John mab Edward Jones a fedyddiwyd yno 27 Rhagfyr 1699. Cofnodir claddu 'John Edwards the Welsh Poet' yn Llansantffraid Glyn Ceiriog, 28 Rhagfyr 1776, a dywedir bod ei gartref am gyfnod yn ymyl y fynwent. Adroddir iddo adael ei grefft fel gwehydd yn fuan ar ôl priodi a threulio saith mlynedd yn Llundain fel cynorthwywr i lyfrwerthwr - y mae'r ymryson a fu rhyngddo a Jonathan Hughes yn ategu hyn. Mab iddo oedd Cain Jones yr almanaciwr, a gwneir yntau hefyd yn almanaciwr gan Charles Ashton ac eraill. Yr oedd yn un o feirdd eisteddfodau 'r 18fed ganrif - y Bala 1738, Glyn Ceiriog 1743, ' Slattyn ' 1748, etc. - a nodau beirdd yr eisteddfodau sydd ar lawer o'i gerddi, yn arbennig ar ei gyfansoddiad enwocaf, y 24 englyn i glochdy eglwys Llangollen, 1749. Lluniodd gyfieithiad o'r ail a'r drydedd ran o'r Pilgrim's Progress. Cyhoeddwyd yr ail ran gan Stafford Prys - yn 1761-2, mae'n debyg, a barnu oddi wrth 'Rybudd' y cyfieithydd (168), ac nid yn 1767 fel y dywed William Rowlands ('Gwilym Lleyn'). Argraffwyd y drydedd ran 'tros Ddafydd Llwyd o'r Bala ' yng Nghaerlleon yn 1768 - enwir Robert Llwyd o'r Bala yn yr ail ran fel cyfaill i'r cyfieithydd. Hwn oedd y cyfieithiad Cymraeg cynharaf o'r drydedd ran.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.