EDDOWES, JOSHUA (1724 - 1811), argraffydd a gwerthwr llyfrau yn Amwythig;

Enw: Joshua Eddowes
Dyddiad geni: 1724
Dyddiad marw: 1811
Priod: Lydia Eddowes (née Phillips)
Plentyn: William Eddowes
Rhiant: Ralph Eddowes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd a gwerthwr llyfrau
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

bedyddiwyd 26 Ebrill 1724, mab Ralph Eddowes, groser, Whitchurch, Swydd Amwythig. Yr oedd Joshua Eddowes yn bartner gyda JOHN COTTON yn 1749 os nad cyn hynny; cawsai John Cotton ryddfreiniad y 'Combrethren of Saddlers' ar 6 Mehefin 1740, eithr ar 25 Mai 1749 y derbyniwyd Eddowes. Parhaodd y bartneriaeth hyd 1765; dug Eddowes y busnes ymlaen hyd 1788, pan gymerth ei fab William Eddowes (ganwyd 1754) yn bartner, ac o hynny hyd farw'r tad ar 25 Medi 1811 enw'r ffyrm ydoedd ' J. and W. Eddowes '; dechreuasant gyhoeddi y Salopian Journal ar 29 Ionawr 1794. Y mae W. Rowlands (Llyfryddiaeth y Cymry) yn cofnodi cryn lawer o lyfrau a argraffwyd gan yr argraffwyr hyn, yn eu plith rai gweithiau pur bwysig yn eu dydd (e.e. Lloffion Prydyddiaeth… Mr. Rees Prichard, 1766, Gweledigaethau y Bardd Cwsg, 1768). Argraffodd Joshua Eddowes amryw o almanaciau Gwilym Howel hefyd. Enw ei wraig, a briododd 13 Medi 1753, oedd Lydia, merch William Phillips. Ceir ychwaneg o fanylion am William Eddowes, y mab, yn yr erthygl gan Ll. C. Lloyd a enwir isod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.