Ganwyd ef ym mhlwyf Llangurig, Sir Drefaldwyn, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i oes ym mhlwyf Llanidloes, lle bu'n stiward ar stad Berthllwyd am lawer blwyddyn. Bu'n faer Llanidloes, 1762-3. Yr oedd yn fardd ei hun a chasglodd weithiau beirdd eraill, yn arbennig barddoniaeth Huw Morys. Dywed ' Iolo Morganwg ' i ' Gwallter Mechain ' wneud defnydd helaeth o'r casgliad hwn wrth gyhoeddi Eos Ceiriog. Yr oedd ei almanaciau, Tymhorol Newyddion o'r Wybren, o nodwedd lenyddol uchel, yn cynnwys gweithiau beirdd cyfoes cylch y Morrisiaid, a chynhyrchion beirdd cynharach megis Wiliam Cynwal, Siôn Tudur, a Huw Morris. Cyhoeddodd gyfres o 10, y cyntaf ohonynt am y flwyddyn 1766. Am na allai gael y peiriannau angenrheidiol ar gyfer ei sywedyddiaeth gwnaeth rai ei hun yn ddeheuig iawn. Llwyddodd i sefydlu eisteddfodau blynyddol yn yr ardal. Cynhaliwyd y gyntaf yn y Red Lion, Llanidloes, 1772. Bu farw 4 Mawrth 1775 a chladdwyd ef ym mynwent Llanidloes.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.