MADOCKS, WILLIAM ALEXANDER (1773 - 1828), dyneiddiwr, yn caru'r ddrama a'r celfyddydau

Enw: William Alexander Madocks
Dyddiad geni: 1773
Dyddiad marw: 1828
Priod: Eliza Anne Gwynne (née Hughes)
Rhiant: John Madocks
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dyneiddiwr, yn caru'r ddrama a'r celfyddydau
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Diwydiant a Busnes; Hanes a Diwylliant; Dyngarwch
Awdur: David Thomas

Ganwyd 17 Mehefin 1773 (yn ôl NLW MS 10590C ), yn drydydd mab i John Madocks o Fron Iw, Sir Ddinbych (J. E. Griffith, Pedigrees, 315); aeth i Goleg Eglwys Grist yn Rhydychen (1790), ac yn 1794 etholwyd ef yn gymrawd o Goleg All Souls. Bu'n aelod seneddol Radicalaidd dros Boston, 1802-18, a Chippenham, 1820-6. Bu'n byw yn Nolmelynllyn, ger Dolgellau, a darllenodd yn Tours Thomas Pennant am gynllun Syr John Wynn o Wydir i gau'r Traeth Mawr, rhwng Aberglaslyn a'r môr.

Etifeddodd gyfoeth mawr ar ôl ei dad, ac yn 1798 prynodd stad Tanrallt, Penmorfa. Caeodd tua 1,000 acer o'r Traeth Mawr, ac adeiladodd Dremadog; cafodd ddeddf yn 1807 i adeiladu cob ar draws y Traeth i gau 3,000 acer yn chwaneg. Gwnaeth ffordd ar hyd-ddo i gysylltu Llundain a Phortinllaen; cawsai ddeddf yn 1806 i wneud Portinllaen yn borthladd, ond methodd gael ei wneud yn orsaf i'r llongau post i Ddulyn. Arfaethodd wneud ffordd ferrach i Lundain drwy Ddolgellau a'r Trallwng a Chaerwrangon. Yn 1821 cafodd ddeddf i wneud porthladd ymhen y cob, a dyna gychwyn Porthmadog. Ceisiodd gael ffordd haearn ar hyd y cob i gario llechi o Ffestiniog i Borthmadog, a chyflawnodd Samuel Holland ei fwriad yn 1831.

Ond aeth yn ôl yn y byd; bu raid iddo encilio i Ffrainc, a bu farw ym Mharis ar 29 Medi 1828 a chladdwyd ef ym Mharis. Yr oedd wedi priodi (1818) Eliza Anne, wyres i Joseph Harris o Drefeca, ac aeres Thomas Harris.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.