WILLIAMS, ROBERT ('Robert ap Gwilym Ddu'; 1766 - 1850), bardd

Enw: Robert Williams
Ffugenw: Robert ap Gwilym Ddu
Dyddiad geni: 1766
Dyddiad marw: 1850
Plentyn: Jane Elizabeth Williams
Rhiant: Jane Williams (née Parry)
Rhiant: William Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Stephen Joseph Williams

Ganwyd 6 Rhagfyr 1766, unig blentyn William Williams a Jane (Parry) o'r Betws Fawr, ffermdy ym mhlwyf Llanystumdwy. Tebyg mai yn un o ysgolion y gymdogaeth y cafodd addysg gyffredinol, ac mai gan rai o feirdd Eifionydd y dysgodd gelfyddyd barddoniaeth. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn amaethwr cyfrifol, ond cafodd hamdden i ddilyn diddordebau megis llenyddiaeth Gymraeg, diwinyddiaeth, cerddoriaeth, a hynafiaethau. Daeth ei gartref yn gyrchfa Cymry diwylliedig, ac adwaenid ef yng Ngwynedd fel bardd a gŵr gwybodus ac annibynnol ei farn. Yr oedd Robert Williams tua 50 oed pan briododd â merch ifanc a wasnaethai (mae'n debyg) mewn plasty cyfagos. Ganed iddynt un ferch, Jane Elizabeth, ond bu hi farw yn 1834 yn 17 oed. Un o alarnadau dwysaf yr iaith yw'r awdl a ganodd ei thad ar ei hôl. Yr oedd Robert yn gyfeillgar â beirdd yr eisteddfod, ond ni fynnodd gystadlu wedi'r un tro y collodd y wobr. Dywedwyd ar gam iddo ennill mewn eisteddfod arall. Bu'n gyfaill ffyddlon i J. R. Jones, Ramoth, a bu'n cynorthwyo'r gŵr hwnnw i gyhoeddi llyfrau emynau. Coffeir ei gysylltiad ef a 'Dewi Wyn', ei gymydog a'i gynddisgybl, â'r lle yr addolent, gan yr enw 'Capel y Beirdd.' Bardd crefyddol oedd ef yn bennaf, a'i brofiadau crefyddol a'i symbylodd ef amlaf i ganu, ond ni chymerodd Robert Williams mo'i fedyddio, ac ni fu'n aelod eglwysig. Ychydig cyn diwedd ei oes symudodd ef a'i wraig i dŷ a elwid Mynachdy Bach, ac yno y bu farw 11 Gorffennaf 1850 yn 83 oed. Claddwyd ef ym mynwent Abererch, ger Pwllheli.

Fel crefftwr yn y canu caeth yr oedd 'Robert ap Gwilym Ddu' yn llinach beirdd gorau'r hen draddodiad, ac y mae rhai o'i englynion yn emau pur. Dysgodd lawer gan Oronwy Owen, ond yr oedd hefyd yn ddyledus i draddodiad ei fro ei hun. Yn ei emynau cyfunodd ef grynoder y canu caeth ac asbri telynegol emynwyr y 18fed ganrif. Ei emyn mwyaf adnabyddus yw 'Mae'r gwaed a redodd ar y groes.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.