Ganwyd Mehefin 1784 yn y Gaerwen, plwyf Llanystumdwy, Sir Gaernarfon - ffermdy a saif ar y llaw ddehau i'r ffordd sy'n arwain o orsaf yr Ynys i Langybi yn Eifionydd. Cafodd ei addysg gynnar mewn ysgolion preifat yn Llangybi, Llanystumdwy, a Phenmorfa, wedi cyfnod byr mewn ysgol Saesneg ym Mangor-is-coed, dychwelodd adref i'r Gaerwen. Cadwai ei frawd, Owen, fasnachdy yn Siop y Gaerwen, Pwllheli, ac oherwydd afiechyd ei frawd symudodd Dewi a'i fam i Bwllheli (1827). Daliai fferm y Gaerwen er hynny, a phan fu farw ei frawd yn 1837 dychwelodd yno, ac yno y bu yn amaethu hyd ddiwedd ei oes. Ei athro barddonol oedd ei gymydog Robert Williams ('Robert ap Gwilym Ddu '), a drigai yn y Betws Fawr gerllaw'r Gaerwen. Yn 21 oed enillodd Dewi fedal y Gwyneddigion am ei awdl ' Molawd Ynys Brydain,' ac yn 1811 enillodd wobr eisteddfod Tremadog am ei 'Awdl i Amaethyddiaeth.' Ei waith enwocaf, a'r un a achosodd fwyaf o gynnwrf, oedd 'Awdl Elusengarwch,' a anfonodd i eisteddfod Dinbych yn 1819, pan enillwyd y wobr gan y Parch. E. Hughes ('Y Dryw'), Bodfari. Credai Dewi a'i gyfeillion ei fod wedi cael cam mawr; chwerwodd ei ysbryd, ac mewn llythyrau at gyfeillion ac mewn dychangerdd ymosododd yn llym ar y ddau feirniad, Dr. William Owen Pughe a Robert Davies ('Bardd Nantglyn'). Sorrodd Dewi ac ni chyfansoddodd ond ychydig wedyn. Yr oedd yn feistr ar y mesurau caethion, ac ysgrifennodd nifer o englynion gwych. Ymysg ei oreuon y mae'r gadwyn o englynion i Bont Menai a gyfansoddodd yn 1832. Ystyrid ef yn un o brif feirdd ei oes. Bu iddo le pwysig yn natblygiad yr awdl a'r englyn, a bu ei gyfres o englynion i Bont Menai yn fath ar batrwm i feirdd y 19eg ganrif. Ei brif ddiffyg fel bardd oedd ei arfer o bentyrru geiriau diystyr ar ei gilydd, a diffyg cynildeb yn ei grefft sy'n peri bod llawer o'i waith yn bur aneglur. Am y pum mlynedd olaf o'i oes, dioddefai oddi wrth afiechyd ac iselder ysbryd. Ychydig cyn ei farw ymunodd ag eglwys y Bedyddwyr, Capel y Beirdd, Eifionydd. Bu farw 17 Ionawr 1841, a chladdwyd ym mynwent Llangybi. Yn 1842 cyhoeddwyd ei farddoniaeth (gyda chofiant) gan Edward Parry, Caer, o dan y teitl Blodau Arfon , a bu ei ddylanwad yn fawr ar feirdd y 19eg ganrif yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.