Ganwyd ym mhlwyf Nantglyn, sir Ddinbych. Prentisiwyd ef yn deiliwr. Aeth i Lundain yn 1800, ac am y pedair blynedd neu bump y bu yno bu'n amlwg iawn gyda Chymdeithas y Gwyneddigion, ac yn fardd ac ysgrifennydd iddi. Yr oedd yn un o gefnogwyr mwyaf selog eisteddfodau'r Gwyneddigion a'r eisteddfodau taleithiol yn niwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg. Ef a enillodd am awdl ar y testun, 'Cariad i'n Gwlad,' yng Nghaerwys yn 1798. Yr oedd yn cydfeirniadu ag 'Iolo Morganwg' yng Nghaerfyrddin yn 1819. Enillodd yn Wrecsam yn 1820 am awdl ar farwolaeth Siôr III. Enillodd wobrau hefyd ym Miwmares yn 1832. Ond yr hyn a barodd fwyaf o sôn amdano ynglŷn â'r eisteddfod oedd iddo ef a William Owen Pughe a 'Dewi Silin' wobrwyo awdl Edward Hughes, Bodffari, yn lle un 'Dewi Wyn' ar y testun 'Elusengarwch' yn Ninbych yn 1819. Yn 1798 cyhoeddodd gasgliad o'i waith o dan y teitl Cnewyllyn mewn Gwisg, ac yn 1803 Barddoniaeth, sef ei waith ef ei hun gan mwyaf, ond yn cynnwys hefyd rai cerddi gan eraill o feirdd y cyfnod. Yna yn 1827 cyhoeddodd ei brif weithiau yn Diliau Barddas . Ei ddarn gorau a mwyaf adnabyddus yw'r ddychangerdd ffraeth, 'Ewyllys Adda.' Ceir ei waith fel gramadegwr yn Ieithiadur neu Ramadeg Cymraeg, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1808, ac ail argraffiad yn 1818 a thrydydd yn 1826. Y mae olion gramadegau'r penceirddiaid a gramadeg Pughe ac Egluryn Phraethineb Henri Perri ar y gwaith hwn, ond y mae llawer ohono hefyd yn ffrwyth myfyrdod 'Bardd Nantglyn' ei hun. Ar ddiwedd y llyfr ceir 'Rheolau Barddoniaeth Gymraeg.' Gwyddys mai 'Dafydd Ddu Eryri' oedd awdur gwreiddiol yr adran hon, ond bod 'Bardd Nantglyn' wedi newid tipyn arni a'i chyhoeddi heb gydnabod 'Dafydd Ddu' o gwbl. Bu farw 1 Rhagfyr 1835.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.