RICHARDS, THOMAS (1754-1837), clerigwr

Enw: Thomas Richards
Dyddiad geni: 1754
Dyddiad marw: 1837
Priod: Jane Richards (née Lloyd)
Plentyn: Elizabeth Richards
Plentyn: Jane Richards
Plentyn: Mary Richards
Plentyn: Lewis Richards
Plentyn: John Lloyd Richards
Plentyn: Thomas Richards
Plentyn: David Richards
Plentyn: Richard Richards
Rhiant: Jane Thomas
Rhiant: Richard Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd yn yr Hirnant, Pont Erwyd, Sir Aberteifi, 24 Ebrill 1754, mab Richard Thomas a Jane ei wraig. Yn 19 oed aeth i ysgol Ystrad Meurig, ac yno cyfarfu â Thomas Jones (Creaton). Daeth y ddau'n gyfeillion mynwesol a pharhau felly hyd ddiwedd eu dyddiau. Bu Richards yn cadw ysgol yn Nhalybont, Sir Aberteifi, am dair blynedd, ac yn 1779 priododd Jane, ferch David Lloyd o'r Cymmerau ym mhlwyf Llanbadarn Fawr. Yr un flwyddyn, ym Medi, urddwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Warren a'i drwyddedu, yn olynydd i Thomas Jones uchod, i guradiaeth Llangynfelin a'r Eglwysfach. Derbyniodd urddau offeiriad yn 1780. Yn ystod y blynyddoedd hyn âi'n aml i Langeitho i wrando ar Ddaniel Rowland yn pregethu. Yn 1784 aeth i Lan-ym-Mawddwy yn gurad, yn olynydd i Thomas Charles, a bu'n gwasnaethu yno am 15 mlynedd ar gyflog o £30 y flwyddyn. Cadwai ysgol yno hefyd. Ar ôl i Thomas Jones (uchod) ddwyn ei achos i sylw'r esgob Bagot o Lanelwy ac eraill, penodwyd ef yn ficer Darowen, ger Machynlleth, a'i sefydlu a'i osod yno Awst 1800. Bu yno yn weithgar iawn hyd ei farw, 2 Rhagfyr 1837; claddwyd ef yn Narowen, ac y mae yno goflech, iddo ef a'i wraig (1756 - 1841).

Bu i Thomas a Jane Richards wyth o blant, sef pum mab a thair merch. Codwyd pob un o'r meibion yn glerigwyr.

RICHARD RICHARDS (1780 - 1860)

Y mab hynaf. Ganwyd ef 21 Tachwedd 1780, a chafodd ei addysg yn Ystrad Meurig. Urddwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Burgess o Dyddewi ym Medi 1808, a'i drwyddedu i guradiaethau Llanddeiniol a Nantcwnlle, Sir Aberteifi; bu'n cadw ysgol hefyd yn Nantcwnlle. Derbyniodd urddau offeiriad yn 1809 ac yn 1811 aeth i Lanbrynmair yn gurad ac yn ysgolfeistr. Yn Rhagfyr 1816 symudodd i Gaerwys yn Sir y Fflint ac ar ôl deng mlynedd yno yn gurad codwyd ef yn rheithor a bu yno hyd 1849. Yna aeth yn ficer i Feifod, Sir Drefaldwyn, lle y bu farw 3 Ebrill 1860. Claddwyd ef yn Llangynyw. Heblaw ei waith fel offeiriad a phregethwr, bu'n gefnogwr selog i fudiadau diwylliannol a chenhadol, a chyhoeddodd bregethau, traethodau, a chyfieithiadau.

DAVID RICHARDS 'Dewi Silin' (1783 - 1826)

Ganwyd yr ail fab ar 12 Ebrill 1783, a'i addysgu yn ysgol ramadeg Dolgellau ac yn Ystrad Meurig. Urddwyd ef yn ddiacon 1809 gan yr esgob Burgess a'i drwyddedu i guradiaeth Penbre, ger Llanelli. Cafodd urddau offeiriad yn 1810, a gwasnaethu fel curad yn y Drenewydd, Nantglyn, Llys Meirchion (?), a Llansilin, cyn ei sefydlu'n ficer Llansilin, Awst 1819. Priododd Eleanor Williams yn Amwythig, 19 Mehefin 1823, a bu iddynt fab a merch. Bu farw 4 Rhagfyr 1826 a'i gladdu yn Llansilin, sir Ddinbych. Adnabyddid ef fel ' Dewi Silin,' a chymerth ran amlwg yn adfywiad yr eisteddfod yn neuddegau'r ganrif; bu hefyd yn ysgrifennydd Cymreigyddion Powys, a chadwai filgwn.

THOMAS RICHARDS (1785 - 1855)

Y trydydd mab, ganwyd 3 Mehefin 1785. Cafodd ei urddo'n ddiacon ym Medi 1810 gan yr esgob Cleaver a'i drwyddedu i guradiaeth Llan-ym-Mawddwy. Cafodd urddau offeiriad Gorffennaf 1811, ac ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, Rhagfyr 1812, ond ni chymerodd ei radd. Dechreuodd gadw ysgol yn Aberriw, Sir Drefaldwyn, Mawrth 1813, a bu'n gwasnaethu hefyd fel curad Trefaldwyn. Yr oedd mewn cysylltiad â nifer o wyr llengar ei gyfnod, a bu John Blackwell ('Alun') ac Evan Evans ('Ieuan Glan Geirionydd') yn ddisgyblion iddo. Bu'n ysgrifennydd lleol i Gymdeithas y Beiblau, ac yn hyrwyddwr cyhoeddi cylchgronau Cymraeg. Pan wrthododd ei dad fywoliaeth Llangynyw, oherwydd ei hen ddyddiau, cynigiwyd hi i Thomas y mab, a sefydlwyd ef Ebrill 1826. Bu yno hyd ei farw, 27 Tachwedd 1855, ac yno y'i claddwyd.

JOHN LLOYD RICHARDS (1790 - 1854)

Aeth y pedwerydd mab i goleg S. Bees, ac urddwyd ef yn ddiacon Hydref 1823, i guradiaeth Nun Monkton, ger Caer Efrog, gan yr esgob Law o Gaer. Cafodd urddau offeiriad Rhagfyr 1824, ac yn Ebrill 1825 penodwyd ef yn ficer Llanwddyn, Sir Drefaldwyn. Bu yno hyd ei farw, 28 Mawrth 1854, a'i gladdu yn Llangynyw. Cymerai ddiddordeb mawr mewn amaethu.

LEWIS RICHARDS (1799 - 1860)

Y pumed mab; ganwyd ef 31 Rhagfyr 1799. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, a graddio ym Mehefin 1824. Urddwyd ef yn ddiacon yr un mis gan yr esgob Pelham o Lincoln, ac yn offeiriad Ionawr 1825 gan yr esgob Luxmoore o Lanelwy. Dechreuodd ar ei waith fel curad yn Rhuddlan, Sir y Fflint, Mai 1826; aeth i Lanerfyl, Sir Drefaldwyn, yn ficer yn 1837 a bu yno hyd ei farw 20 Gorffennaf 1860. Claddwyd yntau yn Llangynyw.

O'r tair merch, MARY (1787 - 1877), Jane (1794 - 1876), ac Elizabeth (1797 - 1840), yr oedd yr hynaf yn bersonoliaeth nodedig. Yn 1821 gwnaed hi'n aelod anrhydeddus o Gymdeithas y Cymmrodorion 'yn gydnabyddiaeth o'i sêl yn achos llên Cymru.' Bu'n gohebu â nifer o lenorion blaenllaw ei chyfnod, copïodd lawer o farddoniaeth a llu o lythyrau, ac ymddiddorai mewn cerddoriaeth. Claddwyd hi yn Narowen.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.