HUGHES, EDWARD ('Y Dryw '; 1772 - 1850), eisteddfodwr

Enw: Edward Hughes
Ffugenw: Y Dryw
Dyddiad geni: 1772
Dyddiad marw: 1850
Rhiant: Benjamin Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: eisteddfodwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Robert William Hughes

Ganwyd yn Nannerch (bedyddiwyd 9 Gorffennaf), mab Benjamin Hughes, Walgoch, Nannerch. Addysgwyd ef yn S. Alban's Hall, ac ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, yn 1794; B.A., 1797; M.A., 1800. Bu'n gaplan yn y fyddin am beth amser, a hefyd yn yr un swydd ar long ryfel yn yr ymgyrch anffodus i ynys Walcheren yn 1809. Bu'n rheithor Llanddulas o 1814 i 1818, a Bodfari o 1818 i 1850.

Dyfarnwyd ei awdl 'Elusengarwch' yn orau yn eisteddfod Dinbych, 1819, gan Dr. William Owen Pughe, ' Bardd Nantglyn,' a ' Dewi Silin.' Cododd storm anarferol chwerw a barhaodd am amser maith ynghylch y dyfarniad hwn. Bernid gan feirdd a llenorion Cymru yn dra chyffredinol mai ' Dewi Wyn o Eifion ' a deilyngai y wobr. Etholwyd ef yn fardd Cymdeithas y Gwyneddigion, 1820-1, ac enillodd wobr Cymdeithas y Cymmrodorion, 1822, am ei gywydd ' Hu Gadarn.' Yn eisteddfod Dinbych, 1828, bu'n fuddugol eto ar ' Ymdrech Buddug yn erbyn y Rhufeiniaid ' a hefyd ar yr awdl, ' Amaethyddiaeth,' dan feirniadaeth ' Gwallter Mechain,' ' Alun,' ac Aneurin Owen. Bu'n gystadleuydd ar awdlau yn Wrecsam, 1820, Caernarfon, 1824, Rhosllanerchrugog, 1829, Bryn Eglwys yn Iâl, 1830. Ceir amryw ddarnau byrion o'i waith yng ngwahanol gylchgronau a chasgliadau barddonol ei gyfnod. Bu farw 11 Ebrill 1850 ym Modfari.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.