ELLIS, JOHN (1760 - 1839), cyfrwywr a cherddor

Enw: John Ellis
Dyddiad geni: 1760
Dyddiad marw: 1839
Rhiant: Jane Ellis
Rhiant: William Ellis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfrwywr a cherddor
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Cerddoriaeth; Perfformio
Awduron: Robert David Griffith, Huw Williams

Ganwyd yn Nhŷ'n-y-Gwernannau, plwyf Llangwm, sir Ddinbych — dyma gofnod ei fedydd: ‘Baptized 8 November 1760, John, twin brother of Jane; Parents names, William and Jane Ellis, Ty'n y Gwernannau; David Lloyd, Rector.' Cymerodd ddiddordeb mewn cerddoriaeth yn ieuanc, a dysgodd ganu'r ffliwt. Prentisiwyd ef yn gyfrwywr, ac wedi bwrw ei brentisiaeth a phriodi, agorodd siop yn Heol Scotland, Llanrwst. Yn 1800 ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd a phenodwyd ef i fynd oddi amgylch i ddysgu i'r cynulleidfaoedd ganu. Cyhoeddodd, yn 1816, Mawl yr Arglwydd, ‘yn cynnwys Mawlganau, a chyfarwyddiadau i ganu a'r deall, a hyfforddiadau i ddysgu cerddoriaeth' — y llyfr tonau cyntaf a gafodd y genedl. Wedi dwyn y llyfr allan symudodd i Lanfyllin, ac oddi yno i Lerpwl, a phenodwyd ef yn arweinydd y canu yng nghapel Pall Mall. Yn 1828 ymunodd ag eglwys Bedford Street, a gwnaed ef yn arweinydd y canu yno. Cyfansoddodd lawer o anthemau, a cheir ‘Molwch yr Arglwydd,’ ‘Duw yn ddiau a glybu,’ a ‘Cân Moses’ yn Y Gyfres Gerddorol wedi eu trefnu gan ‘Owain Alaw’. Erys y dôn ‘Eliot,’ 9.8., a ymddangosodd o dan yr enw ‘Hill Street’, yn Y Dysgedydd, Ionawr 1822, yn boblogaidd. Bu farw 31 Ionawr 1839, a chladdwyd ef ym mynwent y Wesleaid Saesneg yn Stanhope Street, Lerpwl.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/