Ganwyd 14 Tachwedd 1821 yn Crane Street, Caerlleon, mab Capten Owen. Cafodd addysg dda, a phrentisiwyd ef ym masnachdy Powell ac Edwards, Cutlers. Ei athro cerdd cyntaf oedd Edward Peters, Caer, ac wedi hynny, C. Lucas, Llundain.
Penodwyd ef yn ieuanc yn organydd yng nghapel yr arglwyddes Huntingdon, ac yn arweinydd i'r 'Octagon Orchestral Society.' Yn 1842 priododd, ac yn 1844 rhoddodd i fyny ei fusnes, ac ymroi i wasnaethu cerddoriaeth. Penodwyd ef yn organydd eglwys S. Paul, Broughton, ac wedi hynny i eglwys S. Bride, ac yn ddiwethaf i eglwys Gymraeg S. Mair, Caer, lle y bu yn organydd a chôr-feistr, ac yn ysgrifennydd yr eglwys hyd ddiwedd ei oes.
Yr oedd yn gyfansoddwr, organydd, a chyfeilydd, a datganwr (bariton) rhagorol. Ceir yn Haleliwia, 1849, dôn o'r enw 'Calfari' o'i waith. Yn eisteddfod Rhuddlan, 1851, enillodd ar gyfansoddi'r anthem 'Deborah a Barac,' ac yn yr eisteddfod hon yr urddwyd ef yn 'Owain Alaw.' Yr un flwyddyn yr oedd yn gydradd â John Ambrose Lloyd ar y gantawd 'Gweddi Habacuc' yn eisteddfod Porthmadog. Yn 1855 yr oedd yn fuddugol yn eisteddfod Llundain ar 'Can Mair,' ac ym Merthyr ar 'Y ddaeargryn,' yng nghymanfa Gwent a Morgannwg ar anthem 'Och, Anuwiol,' ac yn eisteddfod Llanrwst, 1859, ar 'Arnat Ti y llefais.' Yn 1860 dug allan Gems of Welsh Melody , casgliad o alawon, a fu yn wasnaethgar iawn i Gymru. Enillodd yn eisteddfod Caernarfon ar gyfansoddi cantawd 'Tywysog Cymru,' ac ar gyfer eisteddfod genedlaethol Caerlleon, 1866, cyfansoddodd 'Gŵyl Gwalia.' Cyhoeddodd Tonau yr Ysgol Sabothol; The Welsh Harp, sef casgliad o alawon i bedwar llais; a Ceinion Alawon Seisnig. Yn 1878 dug allan ei brif waith - yr oratorio 'Jeremiah.' Bu ei anthemau, 'Pa fodd y glanha,' 'Gwyn fyd a ystyria wrth y tlawd,' ac eraill yn boblogaidd iawn. Cyhoeddwyd ei anthemau, rhanganau, a'i ganiadau yn Y Gyfres Gerddorol a olygwyd ganddo, Y Drysorfa Gorawl, Ceinion Cerddoriaeth, Miwsig y Miloedd, Y Cerddor Cymreig, Greal y Corau, Y Cerddor, a Cronicl y Cerddor.
Gelwid am ei wasanaeth fel cyfeilydd trwy Gymru, a gwasnaethodd fel beirniad eisteddfodol. Yr oedd wedi ei benodi i feirniadu yn eisteddfod Caerdydd, 1883. Bu farw 30 Ionawr 1883 a chladdwyd ef yn hen fynwent Caerlleon Fawr.
Yr oedd ei fab, W[illiam] H[enry], Owen, yn organydd eglwys S. Bartholomew yn Nulyn. Lladdwyd ef yn y ddamwain ar y rheilffordd ger Abergele, 20 Awst 1868 ac yntau yn ddim ond 23 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.