LLOYD, JOHN AMBROSE (1815-1874), cerddor

Enw: John Ambrose Lloyd
Dyddiad geni: 1815
Dyddiad marw: 1874
Priod: Catherine Lloyd (née Evans)
Plentyn: John Ambrose Lloyd
Plentyn: Charles Francis Lloyd
Rhiant: Catherine Lloyd (née Ambrose)
Rhiant: Enoch Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 14 Mehefin 1815, yn yr yr Wyddgrug, mab Enoch a Catherine Lloyd. Gwneuthurwr dodrefn oedd y tad, a phregethai gyda'r Bedyddwyr; yn 1830 ordeiniwyd ef yn weinidog ar eglwys Hill Cliffe, ger Warrington.

Pan symudodd y teulu i Hill Cliffe, anfonodd Isaac Lloyd, ei frawd, a oedd erbyn hyn yn athro ysgol yn Lerpwl, am ei frawd John i'w gynorthwyo. Yn Lerpwl y cyfansoddodd ei dôn gyntaf yn 1831, ac yntau yn 16 oed; ymddangosodd yn Y Gwladgarwr, 1835, dan yr enw ' Wyddgrug.' Wedi i Isaac ymadael â Lerpwl, aeth John yn athro cynorthwyol i ysgol breifat, ac wedi hynny i Ysgol Picton, ac yn 1838 penodwyd ef yn athro yn y ' Liverpool Mechanics Institute.' Yn 1849 rhoddodd y swydd o athro i fyny oherwydd afiechyd, a chychwynnodd ef a chyfaill iddo fusnes fel ' lithographers,' ond trodd yr anturiaeth yn golled ariannol a rhoddwyd hi i fyny. Penodwyd ef yn gynrychiolydd masnachol dros Ogledd Cymru i Francis Firth, Lerpwl, ac wedi marw Firth, penododd ei olynwyr - y Mri. Woodall a Jones - ef, a dilynodd ei alwedigaeth fel trafaeliwr hyd 1871, pan roes y swydd i fyny oherwydd afiechyd.

Pan aeth i Lerpwl gyntaf mynychai eglwys Dewi Sant gyda'i frawd, ond ymunodd yn 1835 yn eglwys Annibynnol y Tabernacl, lle yr oedd ei gefnder ' Emrys ' (y Parch. William Ambrose) yn aelod. Yn 1835 priododd Catherine, merch Edward ac Elizabeth Evans, aelodau yn y Tabernacl, ac fel yntau yn enedigol o'r Wyddgrug. Yn 1841, wedi adeiladu capel Annibynwyr Brownlow Hill, symudodd o'r Tabernacl iddi; gwnaeth waith mawr yn y ddwy eglwys gyda chaniadaeth. Yn 1851 symudodd i fyw i Bwlch Bach, rhyw ddwy filltir o dref Conwy; yno y cyfansoddodd yr anthem ' Teyrnasoedd y Ddaear.' Yn 1852 aeth i Gaer i fyw, ac, yn 1864, i'r Rhyl, lle y bu'n byw weddill ei oes.

Yn 1843 dug allan Casgliad o Donau; ceir 27 (a dwy anthem) o'i waith ef yn y casgliad. Tonau gwael a geir yn y casgliad hwn - y rhai a genid yng Nghymru yn y diwygiadau, ac a ddygwyd o Loegr. Clywodd ganu y rhai hyn yn blentyn, ac efelychodd yntau yr arddull. Yn 1870 dug allan gasgliad o donau, Aberth Moliant - o'r 27 a gyfansoddodd i gasgliad 1843, ni chafodd ond dwy le yn Aberth Moliant, sef ' Wyddgrug ' ac ' Eifionydd.' Y mae'r tonau a gyfansoddodd wedi ymddangosiad Casgliad o Donau, 1843, yn urddasol a defosiynol, ac yn y wir arddull eglwysig. Dyna ei wasanaeth mawr, sef rhoddi i'w genedl donau teilwng yn gyfryngau mawl, ar ôl iddynt fod yn canu tonau gwael a ddygwyd o Loegr i Gymru yn y 18fed ganrif.

Rhifa ei gyfansoddiadau dair cantawd, 28 o anthemau, dros 90 o donau (gweler rhestr ohonynt yn ei gofiant gan ei fab, C. Francis Lloyd). Nid oes gasgliad o donau a ddefnyddir gan Gymry yn unrhyw ran o'r byd na cheir nifer da o'i donau ef ynddo, ac ers blynyddoedd lawer ceir ei donau yn rhai o gasgliadau y Saeson. Bu farw 14 Tachwedd 1874 a chladdwyd yn Lerpwl.

Mab iddo oedd

JOHN AMBROSE LLOYD (1840 - 1914)

a fu'n organydd yng nghapel Annibynwyr Queen's Street, Caer. Bu'n dilyn am flynyddoedd yr alwedigaeth o drafeiliwr dros y Mri. Frost, Caer. Aeth i Lerpwl, a bu'n aelod o ffyrm Lloyd a Thomas, masnachwyr ŷd. Cyfansoddodd lawer o donau, ond cedwir ei enw'n fyw gan ei dôn ' Kilmorey,' 7.6., a gyfansoddodd i'r Ail Atodiad o Llyfr Tonau Cynulleidfaol (' Ieuan Gwyllt '). Bu farw 6 Medi 1914 yn Lerpwl, a chladdwyd ef ym mynwent Caerlleon.

Mab arall oedd C. F. Lloyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.