LLOYD, CHARLES FRANCIS (1852 - 1917), cerddor

Enw: Charles Francis Lloyd
Dyddiad geni: 1852
Dyddiad marw: 1917
Rhiant: Catherine Lloyd (née Evans)
Rhiant: John Ambrose Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 7 Hydref 1852 yng Nghaerlleon, yn fab John Ambrose Lloyd. Cafodd ei addysg gerddorol ar yr aelwyd, a chanai alto yng nghorau ei dad. Yn 13 oed aeth i ysgol J. D. Jones, Rhuthyn, a chafodd wersi ar y piano gan W. Argent yno. Oddi yno aeth i ysgol yn Tattenhall ger Caerlleon am ddwy flynedd, a chwaraeai yr organ yn eglwys y plwyf yn absenoldeb yr organydd. Yn 16 oed penodwyd ef yn organydd eglwys Biwmares. Yn 20 oed apwyntiwyd ef yn organydd eglwys y plwyf yn Tynemouth, a thra yno cafodd y graddau 'Associate' a 'Licentiate' o Goleg y Drindod, Llundain, ac yn ddiweddarach, Mus. Bac., Rhydychen. Bu'n arweinydd cymdeithas gorawl South Shields a chôr Tynemouth. Cyfansoddodd bump o donau i Aberth Moliant, 1873, a cheir ' Ravensworth ' yn Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd, 1921. Trefnodd gantawd ei dad, ' Gweddi Habacuc,' a'r anthem, ' Teyrnasoedd y Ddaear,' i gerddorfa. Cyfansoddodd 'overture' i eisteddfod genedlaethol Pontypridd, 1893. Gwasnaethai fel beirniad yn yr eisteddfodau cenedlaethol. Bu farw yn Hydref 1917. Cwplawyd ei Cofiant John Ambrose Lloyd gan ' Elfed ' yn 1921.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.