ROBERTS, JOHN ('Ieuan Gwyllt'; 1822 - 1877), cerddor

Enw: John Roberts
Ffugenw: Ieuan Gwyllt
Dyddiad geni: 1822
Dyddiad marw: 1877
Priod: Jane Roberts (née Richards)
Rhiant: Elizabeth Roberts
Rhiant: Evan Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 27 Rhagfyr 1822 yn Tanrhiwfelen ger Aberystwyth, mab Evan ac Elizabeth Roberts. Yn 1823 symudodd y teulu i fyw i Ty'nyffordd, Penllwyn, Aberystwyth, ac yn 1829 i Pistyllgwyn yn nyffryn Melindwr. Yr oedd ei dad yn ddechreuwr canu a'i fam yn gantores lled dda. Cafodd addysg am rai blynyddoedd yn ysgol Lewis Edwards, Penllwyn. Yn ieuanc cyfansoddodd farddoniaeth, a rhoddodd yn ffugenw wrthi 'Ieuan Gwyllt Gelltydd Melindwr,' ac wedi hyn galwyd ef yn 'Ieuan Gwyllt' tra bu byw. Yn 1842 cafodd le yn glerc gyda Griffith a Roberts, fferyllwyr, Aberystwyth, a bu yn eu gwasanaeth am ddwy flynedd. Yn 1844 penodwyd ef yn athro ysgol Skinner Street, ond ymhen ychydig fisoedd aeth i Goleg Normal Borough Road, Llundain, am naw mis. Dychwelodd yn ôl yn 1845 ac agorodd Ysgol Frutanaidd yn Aberystwyth. Ymhen naw mis rhoddodd yr ysgol i fyny ac aeth yn glerc at Hughes a Roberts, cyfreithwyr, a bu yno am saith mlynedd. Yn 1852 penodwyd ef yn is-olygydd Yr Amserau i gynorthwyo 'Hiraethog,' a pharhaodd ei gysylltiad â'r papur hyd 1858. Yn 1856 dechreuodd bregethu, gan draddodi ei bregeth gyntaf ar 15 Mehefin yn Runcorn. Yn 1858 symudodd i Aberdâr i olygu Y Gwladgarwr. Yn 1859 priododd Jane Richards, Aberystwyth. Dechreuodd gyfansoddi yn ieuanc, a cheir tôn yn Yr Athraw, Tachwedd 1839 o'r enw 'Hafilah,' 8.7.3. Yn 1852 dug allan Blodau Cerdd, yn cynnwys gwersi cerddorol a thonau. Wedi mynd i Lerpwl yn 1852 daeth i adnabod y wir arddull mewn cerddoriaeth eglwysig, a dechreuodd ar waith mawr ei fywyd o gasglu a dethol y tonau gorau at wasanaeth ei genedl. Ar ôl llafurio am chwe blynedd dug allan (Ebrill 1859) Llyfr Tonau Cynulleidfaol , a chyda'r llyfr hwn cychwynnwyd cyfnod newydd yng nghaniadaeth grefyddol Cymru. Cyhoeddodd Atodiad ac, yn 1870, Ychwanegiad, i'r Llyfr Tonau. Trefnodd a chynganeddodd nifer mawr o'r tonau, a chyfansoddodd ddau ddwsin o donau a salm-donau sydd mewn ymarferiad gan yr holl enwadau crefyddol; ystyrir ei dôn 'Moab' yn un o donau gorau'r byd. Teithiodd i bob rhan o Gymru i ddarlithio ar ganiadaeth grefyddol. Yn 1859 cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Telyn y Plant dan olygiaeth Thomas Levi a 'Ieuan Gwyllt'; yn 1861 newidiwyd ei enw i Trysorfa y Plant a golygai 'Ieuan Gwyllt' y tonau. Yn 1859 derbyniodd alwad i fugeilio eglwys Pant-tywyll, Merthyr, ac ordeiniwyd ef yn weinidog yng nghymdeithasfa Castellnewydd, 7 Awst 1861. Ym mis Mawrth 1861 dug allan y rhifyn cyntaf o Y Cerddor Cymraeg, ac am bedair blynedd golygodd a chyhoeddodd ef ar ei gyfrifoldeb ei hunan. Yn 1865 ymgymerodd Hughes a'i Fab, Wrecsam, â'i gyhoeddi, ond parhaodd 'Ieuan Gwyllt' i'w olygu hyd 1873. Yn ychwanegol at yr ysgrifau ar gerddoriaeth, rhoddid darn o gerddoriaeth glasurol gyda geiriau Cymraeg o drefniant 'Ieuan Gwyllt.' Ef a sefydlodd ŵyl gerddorol Gwent a Morgannwg, 1854; gŵyl Eryri, 1866; a gŵyl Ardudwy, 1868. Dechreuodd astudio nodiant y Tonic Sol-ffa yn 1863, a dug allan ei Lyfr Tonau yn y nodiant hwnnw yn 1864. Cychwynnodd Cerddor y Tonic Solffa yn 1869, a golygodd y cylchgrawn hyd 1874. Derbyniodd alwad i fugeilio Capel Coch (Methodistiaid Calfinaidd), Llanberis, yn 1865, a gwasnaethodd yno hyd ei ymneilltuad i'r Fron, Llanfaglan, ger Caernarfon, yn 1869. Ef oedd ysgrifennydd pwyllgor Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd, 1869. Bu'n olygydd Y Goleuad o Orffennaf 1871 hyd Hydref 1872, ac yn 1874 dug allan Sŵn y Jiwbili, sef trefniant o emynau a thonau Sankey a Moody yn Gymraeg. Yr oedd yn enwog fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd canu. Bu farw 14 Mai 1877 a chladdwyd ef ym mynwent Caeathro ger Caernarfon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.