RHYS, JOHN DAVID (neu Siôn Dafydd, ac yn ei oes ef ei hun John Davies yn unig; 1534 - 1609?), meddyg a gramadegwr

Enw: John David Rhys
Ffugenw: Siôn Dafydd
Dyddiad geni: 1534
Dyddiad marw: 1609?
Priod: Agnes Rhys (née Garbet)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg a gramadegwr
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Meddygaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Parry

Ganwyd yn Llanfaethlu ym Môn o deulu gwerinaidd, ond yn disgyn o uchelwyr. Addysgwyd ef yng Ngholeg Christ Church, Rhydychen, ac yn 1555 neu'n fuan wedyn aeth i'r Cyfandir. Teithiodd lawer yno - tystia ef ei hun iddo fod yn Fenis, Creta, a Chyprus - a bu ym Mhrifysgol Siena yn yr Eidal, lle y graddiodd yn ddoethur mewn meddygiaeth. Bu hefyd yn athro mewn rhyw fath o ysgol ym Mhistoia. Ni wyddys pa mor hir y bu ar y Cyfandir, ond yr oedd yn ôl yng Nghymru erbyn 1579. Tua'r flwyddyn 1583 yr oedd yn ymarfer â'i alwedigaeth fel meddyg yng Nghaerdydd. Wedyn ymsefydlodd yn Clun Hir yn sir Frycheiniog. Ei wraig oedd Agnes ferch John Garbet o Henffordd, a bu iddynt saith o feibion. Dywed rhai awdurdodau iddo farw yn 1609, ond y mae lle i dybio ei fod yn fyw yn 1617. Cyhoeddodd ddau lyfr tra bu ar y Cyfandir. Un oedd De Italica Pronunciatione (Padua, 1569), llyfr a fwriadwyd yn arbennig efallai i Gymry ar y Cyfandir ddysgu ynganu Eidaleg. Dengys y gwaith fod yr awdur yn hyddysg iawn ym mhrif ieithoedd Ewrop. Y llyfr arall oedd gramadeg Lladin, a gyhoeddwyd yn Fenis, ac a fu'n gymeradwy iawn gan fyfyrwyr. Nid yw'n debyg fod yr un copi o hwn ar gael heddiw. Wedi dychwelyd i Gymru a chael rhai blynyddoedd i gasglu ei ddefnydd, cyhoeddodd yn 1592 ei ramadeg enwog, Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutiones et Rudimenta . Cyflwynwyd y llyfr i Syr Edward Stradling o San Dunwyd ym Mro Morgannwg, y gwr a ddug draul ei argraffu. Y cynnwys yw gramadeg o'r iaith a hefyd ymdriniaeth lafurfawr â cherdd dafod. Nid oes odid ddim gwerth yn y llyfr fel gwaith ysgolheigaidd. Yn y gramadeg y mae'r awdur yn ystumio'r iaith Gymraeg i geisio'i ffitio i ffrâm ramadegol y Lladin, ac y mae'n amlwg nad oedd ganddo ddim o ddawn Gruffydd Robert a'r Dr. John Davies i ddadansoddi hanfodion yr iaith. Yn yr adran ar gerdd dafod y mae'n codi darnau helaeth yn syth o ramadegau'r beirdd, ac y mae'n amlwg droeon nad oedd yn iawn ddeall yr hyn a ysgrifennai. Ond rhaid sylwi fod yn y llyfr rai pethau a fuasai wedi colli oni bai iddo ef eu cadw. Amcan yr awdur oedd gwneud dysg Gymreig yn adnabyddus y tu allan i Gymru, a dyna pam, wrth reswm, yr ysgrifennodd yn Lladin. Ceir mewn llawysgrifau rai cyfansoddiadau o'i waith na chyhoeddwyd mohonynt. Yn Peniarth MS 118 y mae traethawd hir ganddo yn amddiffyn hynafiaethau traddodiadol Cymru yn erbyn haneswyr gwyddonol fel Polydore Vergil. Yn yr un llawysgrif ceir cyfieithiad yn Gymraeg (anghyflawn, mwy na thebyg) o gân Ladin gan Thomas Leyson i gastell San Dunwyd a'i erddi. Ysgrifennodd hefyd lythyr at y beirdd ynghylch yr iaith. Rhwng popeth yr oedd yn enghraifft nodweddiadol o ddylanwad y Dadeni Dysg ar Gymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.