Ganwyd 1756, a threuliodd ei oes yn Cringell, Llanfair-juxta-Neath, hyd ei farwolaeth 21 Mawrth 1823.
Cynullodd William Davies ddefnyddiau hanes ei sir enedigol ac ysgrifennodd rai penodau. Argraffodd 'gynigiadau' at gyhoeddi ei waith yn 1803 a thrachefn yn 1810; ei fwriad yn 1810 oedd cyhoeddi tair cyfrol pedwarplyg i gostio dwy gini y gyfrol. Eithr ni chwplaodd mo'i lafur, a bu ei lawysgrifau a'i gasgliadau yma a thraw yn Sir Forgannwg nes i amryw ohonynt ddyfod o lyfrgell G. T. Clark i'r Llyfrgell Genedlaethol ym mis Mawrth 1923, yr union adeg y dadorchuddiwyd yn Llyfrgell Rydd Castell Nedd dabled coffa canmlwyddiant marw'r hanesydd; yn 1928 daeth cyfres arall o'i ddefnyddiau i'r Llyfrgell Genedlaethol, y tro hwn o lyfrgell John Montgomery Traherne a Lady Mansel Franklen.
Yr oedd William Davies yn adnabod Edward Williams ('Iolo Morganwg'), a cheir rhai pethau yn llaw Iolo yng nghasgliad Cringell. Yr oedd yn ŵr diwylliedig; byddai'n cyfieithu barddoniaeth Gymraeg i Saesneg a Lladin, a gwelir peth o'i waith yn The Gentleman's Magazine ac yn The Cambrian, newyddiadur a gyhoeddid am flynyddoedd lawer yn Abertawe. Gweler hefyd dan Isaac, David Lloyd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.