Ganwyd yn Llanwenog 10 Chwefror 1818. Yr oedd yn aelod gyda Bedyddwyr Aberduar (D. Jones, Hanes Bed. Deheubarth, 336) ac aeth i athrofa'r Fenni yn 1835 (Rufus Williams, Hanes Athrofeydd y Bedyddwyr, 35) ac oddi yno i Bontypŵl yn Awst 1836 (Hanes Athrofeydd y Bedyddwyr 65 - ei enw ef yw'r cyntaf ar restr myfyrwyr y coleg newydd), lle'r arhosodd am 18 mis. Urddwyd ef yn 1838 yng Nghastell Nedd, a gweithiodd yn dda yno, gan sefydlu achosion yn Aberdylais, Glyn Nedd, a Phontardawe; cychwynnodd Gymdeithas Gymreigyddol yng Nghastell Nedd. Ond daeth ymrafaelion i mewn i'w eglwys, ac amheuid ei ddiwinyddiaeth yntau (D. R. Phillips, Hist. of the Vale of Neath, 155), felly symudodd i ofalaeth Trosnant, Pontypŵl, yn 1841. Ystormus fu ei yrfa yno (Bradney, Monmouthshire, I, ii, 455; Y Bedyddiwr, Ionawr 1854; Yr Haul, 1854, 64), ac yn 1853 troes at Eglwys Loegr, ac aeth i Goleg Llanbedr pont Steffan. Urddwyd ef yn ddiacon, 23 Medi 1855, yn Llandaf (Haul, 1855, 363), ac yn offeiriad 21 Medi 1856 (Haul, 1856, 323), a thrwyddedwyd ef i guradiaeth Llangatwg Nedd. Yn 1858, cafodd guradiaeth barhaol Llangathen; dengys nodyn ganddo yn rhestr y plwyf (Transactions of the Carmarthenshire Antiquarian Society and Field Club, vii, 36) iddo weithio'n egnïol yno, gan godi ysgoldy a ficerdy, ailgodi capel adfail, atgyweirio'r eglwys, a chwanegu at nifer y cymunwyr. Yn 1871 (Haul, 1871, 278) cafodd ficeriaeth Llangamarch; bu farw yno 31 Ionawr 1876. Ar hyd ei yrfa, bu'n sgrifennwr diwyd (ond di-drefn a difeirniadaeth) ar hanes a hynafiaethau a ieitheg. Yn Fedyddiwr, sgrifennodd lawer i Seren Gomer; yn Eglwyswr, hyd yn oed pan yng Ngholeg Llanbedr pont Steffan, cyfrannodd yn helaeth i'r Haul - gellir nodi ei ysgrifau ar hynafiaethau (1854-5), ar gyfieithwyr y Beibl (1856), a'r gyfres ' Llyfrgell Llwyd o Langathen ' (1858-9); byddai hefyd yn dadlau yn erbyn Ymneilltuaeth. Cyhoeddodd yn 1859 gyfrol, Siluriana , ar hanes Gwent a Morgannwg, cynnyrch lloffa lletchwith braidd yn llawysgrifau William Davies o'r Cringell (gweler D. R. Phillips yn Journal of the Welsh Bibliographical Society, ii, 29-33), ac yn 1860 draethawd eisteddfodol, Hanes Llanbedr a'r Gymmydogaeth; dywed Bradney iddo hefyd gyhoeddi llyfr ar yr Hen-dŷ-gwyn-ar-Daf.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.