PHILLIPS, DAVID RHYS (1862 - 1952), llyfrgellydd

Enw: David Rhys Phillips
Dyddiad geni: 1862
Dyddiad marw: 1952
Priod: Anne Phillips (née Watts)
Priod: Mary Phillips (née Hancock)
Rhiant: Gwenllian Phillips (née Rees)
Rhiant: David Phillips
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfrgellydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganwyd 20 Mawrth 1862 yn Beili Glas, Pontwalbi, Glyn Nedd, Morgannwg, fferm ei dad-cu, yn fab i David Phillips a Gwenllian, ganwyd Rees; ond magwyd ef ym Melin-cwrt, Resolfen, cwm Nedd. Addysgwyd ef yn yr ysgol genedlaethol, Resolfen, a Burrows School, ac Arnold College, sef ysgolion preifat yn Abertawe. Wedi cyfnod yn löwr, yn 1893 cafodd le yn gysodydd ac yn ddarllenydd proflenni yn swyddfa argraffu Walter Whittingdon, Castell-nedd, a gweithredu hefyd yn bostmon cynorthwyol, ond yn 1900 aeth i Rydychen yn ddarllenydd i Wasg Prifysgol Rhydychen. Penodwyd ef yn olygydd Beibl Cymraeg 1908 ond yn bwysicach, mynychodd gyrsiau mewn llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Technegol Rhydychen. Dychwelodd yn Gynorthwywr Cymraeg i Lyfrgell Bwrdeisdref Abertawe yn 1905 wedi ennill Diploma Cymdeithas y Llyfrgelloedd ac ef a oedd yn gyfrifol am gatalogio'r adran Gymraeg (casgliad Robert Jones, Rotherhithe (1810 - 1879), yn bennaf). Etholwyd ef yn F.L.A. yn 1913, ac yn F.S.A. (Scotland) yn 1920-21. Codwyd ef yn Llyfrgellydd Cymraeg a Cheltaidd y Fwrdeistref ac yna yn 1923 yn gydlyfrgellydd gyda W. J. Salter hyd nes iddo ymddeol yn 1939.

Ymddiwylliodd D. Rhys Phillips yng nghyfarfodydd cymdeithasau llenyddol Resolfen a Chastell-nedd a thaniwyd ef yn gynnar yn ei yrfa i chwilota i hanes y fro, i ysgrifennu erthyglau difyr i'r wasg a'r cylchgronau Cymraeg ac i gystadlu mewn eisteddfodau. Lluniodd nifer o draethodau sylweddol ar destunau cerddorol a bywgraffyddol ar gyfer cystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol (1931, 1932, 1936, 1938, 1948, 1949). Bu'n weithgar mewn llawer o gymdeithasau Cymraeg, yn eu plith Cymdeithas Canu Gwerin, Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, Bwrdd yr Orsedd; yr oedd yn Geltegwr brwd, yn un o hyrwyddwyr y Gyngres Geltaidd yn 1917 a'i Hysgrifennydd hyd 1925, a bu â rhan yn sefydlu Gorsedd Cernyw yn 1928. Cyhoeddodd nifer o erthyglau ar ddatblygu'r gwasanaeth llyfrgell gyhoeddus ond ei ddiddordeb pennaf oedd hanes llyfryddiaeth ac argraffu. Yr oedd yn flaenllaw mewn sefydlu'r Gymdeithas Lyfryddol Gymreig yn 1906 ac ef fu'r Ysgrifennydd o 1907 hyd 1951. Prin y gellir amau nad ei sêl a'i frwdfrydedd ef a sicrhaodd barhad y Gymdeithas a'i thrafodion. Ymhlith ei weithiau ef ei hun gellir nodi Select Bibliography of Owen Glyndwr (1915), The romantic history of the monastic libraries of Wales (1912), Dr Griffith Roberts, Canon of Milan (1917), Lady Charlotte Guest and the Mabinogion (1921), The Celtic countries, their literary and library activities (1915). Hawdd yw nodi diffygion ei waith, ond mae i Rhys Phillips le anrhydeddus yn un o arloeswyr llyfryddiaeth Gymraeg fodern.

Yn 1918 enillodd wobr o £100 yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd am draethawd ar hanes dyffryn Nedd. Cyhoeddodd hwn yn 1925, A history of the Vale of Neath, cyfrol sy'n ffrwyth oes o chwilota a chasglu dogfennau a thraddodiadau ar bob agwedd ar ei fro ei hun.

Priododd ddwywaith, (1) â Mary Hancock, bu farw Ebrill 1926, a (2) ag Anne Watts ' Pencerddes Tawe ', Rhagfyr 1927. Bu mab, o'r briodas gyntaf, a fu farw yn 1924, a merch o'r ail briodas. Bu Rhys Phillips farw yn ei gartref Beili Glas, 15 Chaddesley Terrace, Abertawe, 22 Mawrth 1952.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.