Ganwyd ym Merthyr Tydfil 5 Mai 1833, yn fab i William a Hannah Williams, aelodau yn Abercanaid, lle y bedyddiwyd yntau yn 1848. Bu'n gweithio'n ifanc yng ngwaith haearn Pentre-bach, ond dechreuodd bregethu 24 Ebrill 1850, ac yn Ionawr 1855, wedi dwy flynedd o addysg mewn ysgol a gedwid ym Merthyr gan Thomas Davies (wedi hynny prifathro Coleg y Bedyddwyr, Hwlffordd), aeth i goleg Pontypwl. Yn 1859 ordeiniwyd ef gyda'r Saeson yn Nowlais, lle y bu hefyd yn cadw ysgol i fyfyrwyr gweinidogaethol, ac ar 6 Ionawr 1861 symudodd at y Cymry i Nebo, Ystradyfodwg, lle yr arhosodd hyd ei farwolaeth 12 Chwefror 1877. Priododd (1) 1866, â Mary Davies, merch Thomas Davies, Ynys y Maerdy, gerllaw Llantrisant, a fu farw ymhen ychydig gyda dwy flynedd; (2) â N. Jenkins, aelod yn eglwys Nebo. Er byrred ei oes, daeth 'Rufus' yn wr amlwg iawn ym mywyd ei enwad, fel pregethwr, cynadleddwr, a hanesydd. Bu'n gydysgrifennydd (yn ôl pob tebyg, yn brif ysgrifennydd) Undeb Bedyddwyr Cymru o'r cychwyn yn 1866 hyd 1874, a chyhoeddodd nifer o'r Llawlyfrau cynnar ar ei draul ei hun. Nid oedd yr Undeb yn gymeradwy ar y cychwyn, gan yr holl gymanfaoedd, ac i ' Rufus ' yn bennaf y mae'r diolch am symud y rhagfarnau cynnar a gododd yn erbyn y mudiad. Fel hanesydd enwadol, cyhoeddodd ddwy gyfres o ysgrifau yn Seren Cymru, y naill ar hanes Athrofeydd y Bedyddwyr (a gasglwyd yn gyfrol yn 1863) a'r llall ar hanes Bedyddwyr Ystradyfodwg (a gyhoeddwyd yn gyfrol dan y teitl Ystradiana yn 1886); ysgrifennodd hanes cymanfa Morgannwg yn Llythyr 1873; a thraddododd anerchiad i'r undeb yn 1875 ar ' Hanes Addysg Weinidogaethol ' ymhlith y Bedyddwyr yng Nghymru a sir Fynwy. Bu hefyd yn gyd-olygydd Yr Athraw o 1864 hyd ei farw, a chyhoeddodd gyfrol o bregethau ac ysgrifau ar bynciau Beiblaidd dan y teitl Gweithiau Rufus, i, 1873 (un gyfrol yn unig a ymddangosodd). At hyn oll, bu'n arbennig o weithgar yn y Rhondda mewn cyfnod o lanw diwydiannol, a ffrwyth ei lafur ef yn bennaf yn y 60'au diweddar oedd corffori eglwys Saesneg Ystrad ac eglwysi Hebron (Ton), Noddfa (Treorci), a Moreia (Pentre).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.