DAVIES, THOMAS (1812 - 1895), gweinidog Bedyddwyr a phrifathro coleg yr enwad yn Hwlffordd

Enw: Thomas Davies
Dyddiad geni: 1812
Dyddiad marw: 1895
Priod: Emma Davies (née Davies)
Priod: Jane Davies (née Williams)
Rhiant: Ann Davies (née Edmunds)
Rhiant: John Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Bedyddwyr a phrifathro coleg yr enwad yn Hwlffordd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd 13 Tachwedd 1812, mab John ac Ann Davies, ffermwyr cefnog y Wern Fawr, Llaneurwg. Cafodd addysg dda mewn ysgol leol ac aeth yn llanc 16 oed i Dowlais yn brentis groser. Bedyddiwyd ef gan David Saunders yn Seion, Merthyr Tydfil, a bu'n flaenllaw yn sefydlu eglwys newydd yng Nghaersalem, Dowlais. Dychwelodd i Laneurwg yn 1830 ac ymaelodi yng Nghasbach. Cychwynnodd ysgol Sul yn Llaneurwg ac anogwyd ef gan ei weinidog Evan Jones ('Gwrwst') i ddechrau pregethu. Wedi blwyddyn o hyfforddiant yng Nghaerdydd gan William Jones, gweinidog eglwys Saesneg Bethany, aeth i Goleg y Bedyddwyr, Bryste, yn 1832, ac ar ben ei gwrs, yn 1836, derbyniodd alwad i eglwys Saesneg Merthyr. Bu'n cadw ysgol yno hefyd a daeth yn ŵr amlwg ym mywyd y dref. Yn 1856 etholwyd ef yn brifathro Coleg y Bedyddwyr yn Hwlffordd, ac yn sgil hynny yn gydweinidog eglwys Bethesda yn y dre. Bu ei waith yno drachefn yn llwyddiant mawr. Ymddiswyddodd yn 1894, a bu farw 10 Mawrth 1895. Bu'n llywydd Undeb y Bedyddwyr, 1874, yn is-lywydd Cymdeithas y Beiblau, ac yn gadeirydd Bwrdd Ysgol Hwlffordd. Priododd (1), Jane (bu farw 1857), merch Lewis Williams o Ferthyr, a (2), Emma (bu farw 1899), merch y Parch. W. Davies, Hailsham. Cyhoeddwyd ei anerchiad i Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Iwerddon yn 1867 ar ' Ministerial Education in Wales.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.