Ganwyd yn Llanddoged 26 Awst 1793. Dechreuodd bregethu 'n 18 oed, a phenodwyd ef yn genhadwr i Lŷn ac Eifionydd yn 1815. Ordeiniwyd ef yn Garn Dolbenmaen, 25 Tachwedd 1817, ac ymsefydlodd yn Llangollen yn 1820 ac yn Nolgellau yn 1822. Aeth i Gasbach (Castleton) ym Medi 1823, ac yno y bu hyd ei farwolaeth ar 1 Rhagfyr 1855. Yn 1824 priododd Mary Morgan, Maesyfelin, St. Lythans, a ganed iddynt 12 o blant.
Bu ei weinidogaeth yng Nghasbach yn hynod o lwyddiannus - aeth yr aelodau ar gynnydd, agorwyd canghennau yn Llaneurwg (St. Mellons) yn 1833 a Llansantffraid (St. Bride, Wentloog) yn 1838, a chodwyd amryw i'r weinidogaeth - yn eu plith J. R. Morgan ('Lleurwg').
Ymgyfathrachodd lawer â llenorion ei ddydd, megis ' Robert ap Gwilym Ddu ' a ' Dewi Wyn o Eifion,' a bu'n weithgar gyda Chymreigyddion Dolgellau. Cyhoeddodd Gwentwyson: sef Ymdrechfa y Beirdd; neu Awdlau Galarnadol am … y Parch. Thomas Price (Carnhuanawc), 1849, a thybiwyd mai ef a gyfieithodd Traethawd ar Faddeuant Pechod, 1809, o waith Abraham Booth, er nad oedd ond llanc ieuanc iawn ar y pryd - gweler dan Evan Jones 1777 - 1819.
Enillodd Robert Ellis ('Cynddelw') wobr Iforiaid Casbach am awdl farwnad iddo ym Mai 1856.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.