MORGAN, JOHN RHYS (‘Lleurwg '; 1822 - 1900), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, darlithydd, bardd, a llenor

Enw: John Rhys Morgan
Ffugenw: Lleurwg
Dyddiad geni: 1822
Dyddiad marw: 1900
Priod: Martha Morgan (née Roberts)
Priod: Maria Morgan (née Jones)
Rhiant: Mary Morgan (née Edmunds)
Rhiant: Rees Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr, darlithydd, bardd, a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd 3 Awst 1822, yn ôl pob tebyg (ond 7 neu 17 Awst yn ôl rhai ffynonellau), ym Maes-y-felin, Llysfaen, ger Caerdydd, yn chweched o 12 plentyn a aned i Rees Morgan (ganwyd 1792) a Mary Edmunds (ganwyd 1790) o Faes-y-felin, ac wedi hynny o Faes-y-crochan, Llaneurwg, a oedd yn fodryb i Thomas Davies, prifathro Coleg y Bedyddwyr, Hwlffordd. Cafodd ei addysg yn y Llysfaen ac yng Nghaerffili, ac fe'i bedyddiwyd yn y cyfnod 1840-1, er nad oes sicrwydd gan bwy. Derbyniwyd ef i goleg Pont-y-pŵl yn 1842, a'i ordeinio ym Mangor yn 1846. Yn 1848 symudodd i Aberafan, lle y dechreuodd ei dalent ymddatblygu, ac oddi yno yn 1855 i Gapel Seion, Llanelli, lle yr arhosodd hyd ei farw ar 14 Mawrth 1900. Claddwyd ef ym mynwent gyhoeddus y dref. Gŵr amryddawn dros ben oedd ‘Lleurwg,’ a fu'n amlwg ym mywyd ei enwad, ei ardal, a'r wlad yn gyfan. Tyfodd eglwys Seion, Llanelli, gymaint o dan ei weinidogaeth nes gorfod agor amryw o ganghennau, e.e. yn Greenfield (i'r Saeson, 1858), Moriah (1872), a Chalfaria (1881), ac etholwyd yntau yn 1878 yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd ac yn areithydd brwd o blaid Rhyddfrydiaeth. Efallai mai darlithio oedd ei gryfder pennaf; y mae ar gael o leiaf 30 o destunau o'i eiddo. Yr oedd yn feirniad eisteddfod ac yn aelod o Orsedd y Beirdd, a bu'n olygydd barddoniaeth Seren Cymru o 1860 i 1877, a Seren Gomer yn y 60au cynnar, ond oherwydd amlder diddordebau ni chafodd lawer o gyfle i arfer y grefft ei hun. Bu hefyd yn aelod o fwrdd golygyddion Y Medelwr Ieuanc a gyhoeddwyd gyntaf yn 1871. Cyhoeddwyd toreth o'i waith, gan gynnwys Llawlyfr y Beibl, 1860, sef trosiad o Joseph Angus, Bible Hand-Book, 1854; Deddfau Ty Dduw, 1863; Cofiant y Parch. R. D. Roberts, Llwynhendy, 1893; darlithiau, pregethau, a chaneuon, amryw ohonynt yn Seren Gomer o'r 50au ymlaen; ac erthyglau i John Jones (‘Mathetes’), Geiriadur Beiblaidd, 1864-83.

Priododd (1), c. 1846, Maria Jones, Llaneurwg, a fu farw yng Nghaerffili ar 11 Tachwedd 1847 yn 28 oed, mewn canlyniad i ddamwain a gawsai ym Mangor; a (2), Martha Roberts, merch David Roberts, Aberafan, ar 26 Rhagfyr 1849, yng Nghastell Nedd. Ganed 12 o blant o'r ail briodas.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/