JONES, JOHN ('Mathetes'; 1821 - 1878), gweinidog Bedyddwyr a llenor

Enw: John Jones
Ffugenw: Mathetes
Dyddiad geni: 1821
Dyddiad marw: 1878
Rhiant: Mary Jones
Rhiant: Roger Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Bedyddwyr a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd ym Mancyfelin, Cilrhedyn, 16 Gorffennaf 1821, plentyn hynaf Roger a Mary Jones, a'i fagu yn Nhanyrhelyg, Cenarth. Aeth i'r gwaith glo yn Nowlais yn 1837 ac ymaelodi yno yn eglwys y Bedyddwyr yng Nghaersalem yn 1839. Traddododd ei bregeth gyntaf yn Hirwaun yn 1841, ac aeth i Goleg Hwlffordd yn Awst 1843, wedi cwrs byr o addysg yn ysgol ramadeg Aberteifi. Ordeiniwyd ef ym Mhorthyrhyd 27 Mai 1846, a symudodd i'r Deml, Casnewydd, 1854, Llangollen (yn gyd-weinidog â'r Dr. John Prichard), 1857, Llanfachraeth (Môn), 1859, y Pil (Morgannwg), 1861, Penuel, Rhymni, 1862 (gyda Siloam, Tafarnau-Bach, 1871-5), a Llansawel (Briton Ferry), 1877. Bu farw yno 18 Tachwedd 1878, a chladdwyd ef yn y Pant, Dowlais. Priododd deirgwaith, a ganed iddo chwech o blant.

Yr oedd yn llenor o fri. Bu'n fuddugol droeon ar draethodau eisteddfodol gan gynnwys traethawd ar ' Adnoddau Mwnawl Gogledd Cymru ' yn Llangollen, 1858, a chyhoeddodd lawer iawn o ysgrifau, yn arbennig yn Seren Gomer. Cyhoeddodd hefyd Y Bedydd Cristionogol a Thaenelliad Babanod, 1863, a Pregeth i Fyfyrwyr Coleg Hwlffordd … 1865, ac i Fyfyrwyr Coleg Pontypwl … 1870 [1871], ond cofir ef orau am ei Geiriadur Beiblaidd a Duwinyddol (3 cyf. 1864-9-83) a'i Areithfa Mathetes, 1873. Bu'n gyd-olygydd Y Greal, 1857-9, a'r Arweinydd, 1869-70.

Gweithiodd yn galed hefyd dros ddirwest ac addysg. Cododd ysgol rad yn Llanfachraeth, ac etholwyd ef ar fwrdd ysgol Bedwellty yn aelod yn 1871 ac yn is-gadeirydd yn 1874. Cedwir cyfrol o'i bregethau yn NLW MS 691B .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.