ELLIS, ROBERT ('Cynddelw', 1812 - 1875), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, pregethwr, bardd, hynafiaethydd, ac esboniwr

Enw: Robert Ellis
Ffugenw: Cynddelw
Dyddiad geni: 1812
Dyddiad marw: 1875
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr, pregethwr, bardd, hynafiaethydd, ac esboniwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: John Thomas Jones

Ganwyd 3 Chwefror 1812 yn Nhy'n-y-meini, yn agos i Benybontfawr. Gwas fferm ydoedd o 1822 hyd 1835. Ei fam, ond odid, a llenorion gwlad fel Richard Morris ('turner'), Pentrefelin, James Jones y teiliwr, a Humphrey Bromley, pregethwr gyda'r Sosiniaid, a roes iddo ei ddiddordeb mewn llên a hynafiaethau a'i wybodaeth o gerdd dafod. Dyna ei bethau yn gyfan gwbl ymron nes iddo ymuno ag eglwys y Bedyddwyr, Gefailrhyd (1832), a dechrau pregethu yn 1834. Cafodd ryw 10 mis o ysgol gyda John Williams, awdur Yr Oraclau Bywiol, yn Llansilin yn 1835. Dyma ei feysydd gweinidogaethol: Llanelian a Llanddulas, 1836-8; Glynceiriog, 1838-42; Sirhowy, 1847-62; Caernarfon, 1862-75. Bu farw 19 Awst 1875, yn ei hen gartref, y Gartheryr, rhwng Croesoswallt a Llanrhaeadr, ac yntau ar daith bregethu a darlithio.

Yn anad dim, gwr amryddawn ydoedd. Pregethwr esboniadol, athrawiaethol, defnyddiol ydoedd, yn gryn feistr ar Gymraeg pulpudol ei ddydd, yn parablu yn glir ac yn groyw, a'i ynganiad yn llithrig a naturiol. Yr oedd yn cyfrif mewn cylchoedd barddonol ac eisteddfodol. Ei awdl, 'Yr Adgyfodiad,' yng nghystadleuaeth Gwrwst (yn Seren Gomer 1849), a'i dug i sylw fel bardd ac a roes iddo ei enw barddonol. 'Cywydd y Berwyn,' efallai, yw ei waith barddonol mwyaf gorchestol, ac y mae swyn yn ei 'Awdl ar Ddistawrwydd.' Bu iddo fri cenedlaethol yn yr eisteddfod fel beirniad (barddoniaeth gan amlaf), arweinydd, ac areithydd. Yn Tafol y Beirdd, 1853, trinia'r pedwar-mesur-ar-hugain; golygodd ail argraffiad Gorchestion Beirdd Cymru o gasgliad Rhys Jones, ac argraffiad Isaac Foulkes o Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym. Efe hefyd a gynullodd Blodau Arfon ('Dewi Wyn'), a golygu Geiriadur y Bardd. Ymhyfrydai mewn geiriaduriaeth a chynhyrchodd Geiriadur Cymreig Cymraeg , 1868. Cyhoeddwyd Barddoniaeth Cynddelw dan olygiaeth 'Ioan Arfon' gan H. Humphreys, Caernarfon, yn 1877. Yr oedd iddo ddiddordeb mewn pob math o hynafiaethau - cyhoeddodd Manion Hynafiaethol, 1873, a chyfrannodd ddeunaw pennod i Hanes y Brytaniaid a'r Cymry ('Gweirydd ab Rhys'). Yn herwydd ei ddawn siarad naturiol, ei ffraethineb, a'i wybodaeth eang, yr oedd yn un o ddarlithwyr enwog ei gyfnod, onid yr enwocaf oll, ac, er bod ganddo gyflawnder o destunau, llenyddiaeth a hanes Cymru oedd ei hoff faes, a'i ddarlithiau wedi eu bachu wrth ei ddawn chwilota. Bu'n gymwynasydd i Wasg ei enwad. Yr oedd yn olygydd Y Tyst Apostolaidd, 1846-50; Y Tyst, 1851; Y Greal, 1852-3, a pharhaodd i olygu barddoniaeth Y Greal hyd ddiwedd ei oes; golygodd hefyd golofn farddonol Seren Gomer, 1854-9. Cofiannau John Williams (Yr Oraclau Bywiol) a Dr. Ellis Evans, Cefnmawr - efe biau'r rhain. Parhaodd ei Esboniad ar y Testament Newydd i ymddangos yn rhannau o 1855 hyd ei farw. Cyfrannodd ysgrifau i Eirlyfr Bywgraffyddol (Isaac Foulkes) a Gwyddoniadur Cymreig Dinbych, heb sôn am y cyfnodolion. Ni bu'n ddihidio o ddadleuon diwinyddol ei ddydd, yn enwedig y dadleuon Macleanaidd a'r dadleuon Campbelaidd. Sonnir yn fynych am harddwch ei gorff, cryfder ei gof, nwyfiant a ffraethineb ei dymheredd, ac i'w gyfoeswyr yr oedd ei athrylith amlweddog a chyfoeth ei wybodaeth yn dra rhyfeddol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.