HUMPHREYS, HUGH (1817 - 1896), argraffydd a chyhoeddwr

Enw: Hugh Humphreys
Dyddiad geni: 1817
Dyddiad marw: 1896
Priod: Mary Crane Humphreys (née Davy)
Rhiant: David Humphreys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd a chyhoeddwr
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd yng Nghaernarfon, 17 Medi 1817. David Humphreys, gwerthwr hetiau, brodor o Dre'r Ddôl, Ceredigion, oedd ei dad. Yn 12 oed prentisiwyd Hugh Humphreys yn argraffydd gyda Peter Evans yn Stryd y Castell, Caernarfon, a dechreuodd fusnes ei hun yn Nhan y Bont, yn yr un dref, yn 1837. Yr oedd yn ŵr egnïol ac anturus, ac yn fuan datblygodd i fod yn argraffydd, yn gyhoeddwr, yn llyfrwerthwr, ac yn ffotograffydd. Ei brentis cyntaf oedd y Parch. Griffith Parry, Carno wedi hynny. Yr oedd yn un o arloeswyr cyhoeddi llyfrau rhad yng Nghymru; bu ganddo gyfres o ‘Lyfrau Ceiniog,’ ar ddull Chambers's Miscellany, a fu'n boblogaidd iawn, a chyfres arall a werthid am chwe cheiniog. Cyhoeddodd rai llyfrau pwysig, megis argraffiad, a olygwyd gan y prifathro John Rhys, o Tours in Wales Thomas Pennant; argraffiad, a olygwyd gan ‘Cynddelw,’ o Gorchestion Beirdd Cymru; cyfieithiad, gan ‘Eben Fardd,’ o Chambers's Information for the People; cyfieithiad o waith Josephus; ac argraffiadau o waith barddonol ‘Dewi Wyn,’ ‘Ieuan Brydydd Hir,’ ‘Cawrdaf,’ a ‘Cynddelw.’ Yn 1855 dechreuodd gyhoeddi papur newydd wythnosol, Y Telegraph, ond byr iawn fu parhad hwnnw. Ym Medi 1862 cychwynnodd gyhoeddiad arall, un misol, Golud yr Oes, ond daeth hwnnw i ben yn Rhagfyr, 1864, yn bennaf, ebe'r cyhoeddwr, ‘Am ei fod yn atalfa ar ein ffordd i gario allan gynlluniau a chyhoeddi llyfrau yr oeddym ers blynyddau wedi penderfynu eu dwyn allan o'r wasg.’ Pan ehangodd ei fasnach adeiladodd y Paternoster Buildings ar gongl y Maes yng Nghaernarfon. Cymerodd ran pur amlwg ym mywyd y dref; bu yn faer yn 1876-7, ac yr oedd yn ŵr amlwg gyda'r blaid Geidwadol. Yr oedd hefyd yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleaid; dywed ei fab-yng-nghyfraith, Samuel Evans, yn yr ysgrif yn Y Geninen, iddo fod yn ‘was cylchdaith’ yng nghylchdaith Dinbych ym more ei oes. Priododd, 5 Mehefin 1845, Mary Crane Davy, merch Capten Davy, peiriannydd, Llandudno, gŵr o Gernyw. Bu farw 2 Mai 1896, a chladdwyd ef ym mynwent Llanbeblig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/