Ganwyd 9 Hydref 1795, yn Nhyddyn Siôn, plwyf Abererch Sir Gaernarfon. Cafodd addysg mewn ysgol yn yr ardal, a chan ei dad, Ellis Jones, a oedd yn cadw ysgol ei hun. Yn 1808 prentisiwyd ef yn argraffydd gyda'i gefnder, Richard Jones (1787 - 1855). Wedi bwrw ei brentisiaeth aeth i weithio at gefnder arall iddo, Lewis Evan Jones, yng Nghaernarfon. Yno daeth i adnabod 'Dafydd Ddu Eryri,' ac ymaelododd yng Nghymdeithas yr Eryron, a gyfarfyddai yn y Bontnewydd.
Yn 1817 aeth i Lundain, a bu'n aelod o Gymdeithas y Gwyneddigion. Oherwydd ei ddawn fel arlunydd cafodd gynnig mynd ar daith i'r Cyfandir gyda gwr bonheddig, a bu oddi cartref rhwng 1817 a 1819, a theithiodd yn Ffrainc a'r Eidal. Wedi dychwelyd bu am ysbaid yn gweithio fel arlunydd ym Mryste a Bath. Yna aeth yn ôl i swyddfa argraffu Richard Jones yn Nolgellau. Oddi yno aeth i Gaerfyrddin ac yna i Ferthyr Tydfil at Josiah T. Jones, ac aeth gydag ef pan symudodd i'r Bont-faen ac wedyn i Gaerfyrddin.
Yr oedd yn aelod gyda'r Methodistiaid Wesleaidd, a phregethai yn achlysurol. Bu'n perthyn i amryw o gymdeithasau Cymreigyddion, ac ysgrifennodd awdlau i'r eisteddfodau ar destunau fel 'Hiraeth Cymro am ei Wlad' 1820, 'Rhaglywiaeth Siôr IV 1824, 'Derwyddon Ynys Prydain' 1834, 'Job' 1840. Cyhoeddodd lyfr rhyddiaith, Y Bardd, neu y Meudwy Cymreig , 1830, hanes teithiau dychmygol i wahanol rannau'r byd. Moeswersol yw ansawdd y llyfr trwyddo, ac nid oes iddo ddim o nodweddion nofel, er ei alw'n hynny gan rai.
Bu farw 27 Mawrth 1848.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.