JONES, JOSIAH THOMAS (1799 - 1873), cyhoeddwr, a gweinidog Annibynnol

Enw: Josiah Thomas Jones
Dyddiad geni: 1799
Dyddiad marw: 1873
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyhoeddwr, a gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 23 Medi 1799 yn y Cwm-hir, Clydai, sir Benfro, yn fab i Thomas a Rachel Jones, aelodau o eglwys Trelech. Yn 14 oed, aeth i siop yn Nanhyfer, ond yn 15 (yn Arberth) dechreuodd bregethu yn Llwyn-yr-hwrdd; bu dan addysg Samuel Griffith yn Hebron, ac wedyn aeth i academi Newport Pagnell. Y mae awgrym iddo fod am ychydig yn gofalu am eglwysi Keyston a Wolfsdale gerllaw Hwlffordd, ond ni ddywedir dim am hynny yn Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru. Sut bynnag, urddwyd ef, 6 Awst 1828, yn weinidog Pendref, Caernarfon. Ymddeolodd o'r ofalaeth hon yn 1831 (dilynwyd ef ynddi gan ‘Caledfryn’), ond daliodd i fyw yn y dref hyd 1836, yn argraffu a chyhoeddi llyfrau. O Gaernarfon, aeth i Ferthyr Tydfil, a chychwyn y Merthyr and Cardiff Chronicle, ond yn herwydd ei Radicaliaeth llwyddodd y meistri gwaith i'w erlid o'r dref, ac aeth i'r Bont-faen i ddal ymlaen â'r cyhoeddi. Yn 1838, aeth i Gaerfyrddin, ac ailafaelodd yn y weinidogaeth fel bugail eglwysi Llan-y-bri a Bethesda, ond ‘nid oedd yr achos mewn un modd yn flodeuog’ dano, gan mai yn ei wasg yn nhref Caerfyrddin yr oedd ei wir ddiddordeb. Symudodd i Aberdâr yn 1852, a bwriodd weddill ei oes yno; bu farw ganol nos, 26-7 Ionawr 1873.

Y mae'n amlwg nad oedd Josiah Jones yn llwyddiant fel gweinidog; priodolir iddo ‘ryw anwastadrwydd.’ Prin chwaith, a chanddo gynifer o heyrn yn y tân, y gallodd lwyddo i gadw ei ben uwchlaw'r dŵr yn ei fasnach, ar waethaf ei ddiwydrwydd dihafal. Ond fel cyhoeddwr, gwnaeth waith dirfawr, a chymwynas ddirfawr. Yr oedd yn werinwr i'r carn, ac ymroes i gyfrannu gwybodaeth o bob math — yn enwedig mewn diwinyddiaeth a gwleidyddiaeth — i'w gydwladwyr. Nid oes ofod i enwi mwy nag ychydig o'i gyhoeddiadau niferus. Yng Nghaernarfon, bu ganddo ran yn Y Seren Ogleddol a olygwyd gan ‘Caledfryn,’ a dechreuodd gyhoeddi Geiriadur Duwinyddol William Jones o Benybont-ar-Ogwr. Ym Merthyr Tydfil, fel y sylwyd, cyhoeddodd newyddiadur Radicalaidd. Yn y Bont-faen, gorffennodd gyhoeddi geiriadur William Jones, a chychwynnodd Yr Odydd Cymraeg a'r Gwron Cymreig. Daliodd ati gyda'r Gwron yng Nghaerfyrddin, a chyhoeddodd yno gryn nifer o lyfrau, yn enwedig ei Ddaearyddiaeth Ysgrythyrol. Ond yn Aberdâr y cyrhaeddodd ei uchafbwynt, gan gychwyn Y Gweithiwr a'r Aberdare Times, a chyhoeddi llyfrau; yr enwocaf o'r rhain yw'r Geiriadur Bywgraffyddol dwy gyfrol, 1867, 1870, gwaith anwastad, a godidog o aflêr, sydd er hynny'n werthfawr dros ben, am y ceir ynddo ysgrifau (lawer ohonynt gan y golygydd) ar wŷr na chawsant gofiannau ond sydd eto'n ddiddorol i'r chwilotwr. Bu amryw lenorion pur nodedig, megis ‘Cawrdaf’ (William Ellis Jones) ac ‘Iago ap Dewi’ (James Davies, 1800 - 1869), yn gweithio yn swyddfeydd Josiah Jones.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/