GRIFFITHS, SAMUEL (1783 - 1860), gweinidog Annibynnol

Enw: Samuel Griffiths
Dyddiad geni: 1783
Dyddiad marw: 1860
Rhiant: Mary Griffiths
Rhiant: Thomas Griffiths
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Eirug Davies

Ganwyd ym Mlaenbrwynen, plwyf Clydau, Sir Benfro. Codwyd ef i bregethu yn Nhrelech. Bu wrth ei grefft fel saer maen, a chan na chafodd fanteision addysg ymroes i'w ddiwyllio'i hun, a throes i gadw ysgol yn Llwynyrhwrdd. Gorfodwyd ef i ymuno â gwarchodlu'r sir o 1813 hyd ddarostyngiad Napoleon. Urddwyd ef yn weinidog yn Horeb, Ceredigion, yn 1818. Llafuriodd yn fawr yno i gadw ysgol a lledu cylch ei enwad. Cymerth ofal Carmel, Pantdefaid, yn 1821; adeiladodd gapel Bwlchygroes a sefydlu eglwys yno yn 1833, a chychwynnodd achos ym Mrynteg, Llanwenog, yn 1839. Cyhoeddodd Traethawd ar Swper yr Arglwydd, 1822; Traethawd ar Grefydd Deuluaidd, 1828; Cofiant y Parch. Morgan Jones, Trelech, 1836; Gwaedd yng Nghymru, 1853; a nifer o gatecismau i'r ysgol Sul. Bu'n gyfarwyddwr cyfreithiol di-dâl a chymodwr mawr i gymdogaeth eang. Bu farw 4 Gorffennaf 1860 yn 77 oed a'i gladdu ym Mwlchygroes. Brawd iddo oedd y Parch. William Griffiths (Methodistiaid Calfinaidd), Bury Green, Bro Gŵyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.