Ganwyd 21 Rhagfyr 1788 ym Mlaenbrwynen, Clydau, Sir Benfro, mab Thomas a Mary Griffiths. Gorfodwyd ef i ymuno â'r milisia yn 1807; yn ystod ei wasanaeth milwrol cafodd argraffiadau crefyddol ac ymunodd â'r Methodistiaid. Rhyddhawyd ef o'r fyddin a bu'n cadw ysgol am dymor yn ei blwyf genedigol. Dechreuodd bregethu ym Mwlch-y-groes yn 1814. Yn 1817, ar gais arglwyddes Barham, anfonwyd ef gan y sasiwn yn genhadwr ymhlith trigolion Seisnig Browyr, Morgannwg. Ordeiniwyd ef yn sasiwn Llangeitho, 1824. Llafuriodd yn ddiwyd yn ei faes, ac er na bu'r berthynas rhyngddo â'r arglwyddes Barham yn hapus bob amser fe sefydlodd nifer o achosion crefyddol. Ef yw tad Methodistiaeth Browyr, ac ' Apostol Browyr ' y gelwir ef hyd heddiw. Bu farw yn Burry Green, 21 Gorffennaf 1861. Yr oedd yn frawd i Samuel Griffiths, Horeb.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.