Unig ferch Charles Middleton, Arglwydd Barham, a Margaret ei briod, Barham Court, Kent. Priododd, yn 1780, Syr Gerard Noel.
Yr oedd o ysbryd efengylaidd. Ymsefydlodd yng Ngŵyr, Morgannwg, yn 1813, a chyda chymorth y Methodistiaid sefydlodd achosion crefyddol a chodi capeli iddynt yn rhannau Seisnig Gŵyr. Ni bu'r cydweithrediad rhyngddi â'r Methodistiaid yn hapus bob amser, ond cafodd gefnogaeth yr Annibynwyr hwythau.
Bu farw 12 Ebrill 1823, yn Fairy Hill, Gŵyr. Ymhen rhai blynyddoedd ar ôl ei marw cyflwynodd ei mab Charles, Arglwydd Barham - Arglwydd Gainsborough wedyn - y capeli i ymddiriedolwyr. O'r chwe chapel a godwyd ganddi y mae dau o hyd yn perthyn i'r Methodistiaid Calfinaidd, a'r lleill yn eiddo i'r Annibynwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.