DAVIES, JAMES ('Iago ap Dewi'; 1800-1869), argraffydd a bardd

Enw: James Davies
Ffugenw: Iago ap Dewi
Dyddiad geni: 1800
Dyddiad marw: 1869
Plentyn: David Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd a bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Watkin William Price

Ganwyd gerllaw Pencader, Sir Gaerfyrddin. Ni chafodd ddim manteision addysgol pan yn ieuanc, a bu'n gweithio ar ffermydd. Ymunodd ag eglwys yr Annibynwyr ym Mhencader. Pan oedd tuag 20 mlwydd oed peidiodd â gweithio ar ffermydd ac aeth i Gaerfyrddin yn brentis argraffydd gyda John Evans, argraffydd, swyddfa Seren Gomer. Yno cyfarfu â rhai o anianawd gyffelyb i'r eiddo ei hun - e.e. W. E. Jones ('Gwilym Cawrdaf') a William Thomas ('Gwilym Mai'). Trwy gymorth ei gilydd buont yn meistroli cynghanedd a'r mesurau rhyddion. Tua'r flwyddyn 1840 ymadawodd Davies â Chaerfyrddin i fynd i weithio yn swyddfa Josiah Thomas Jones yn y Bont-faen, lle yr oeddid yn argraffu Y Gwron. Glynodd wrth J. T. Jones gan symud gydag ef i Gaerfyrddin yn 1842 ac i Aberdar yn 1854.

Cystadleuai 'Iago ap Dewi' yn fynych ar destunau barddoniaeth mewn eisteddfodau lleol ond heb ennill y wobr gyntaf byth bron; daeth yn ail yn eisteddfod Cymreigyddion Caerfyrddin gyda'i awdl ar 'Caethiwed'. Cyhoeddwyd llu o'i ganeuon mewn cyfnodolion - Seren Gomer, Yr Efangylydd, Y Drysorfa Gynulleidfaol, Y Gwron, etc. Canodd 'Llinellau ar y Gwlaw Dymunol a Gafwyd ar ol Hir Sychder, Gorffennaf 6, 7, 8, 1826,' a chyhoeddwyd hwynt yn Seren Gomer, Awst 1826 (ac eilwaith yn 1844). Cyhoeddodd ei waith yn 1858 o dan y teitl - Myfyrdodau Barddonol…. Ceir emyn o'i waith yn Y Caniedydd Cynulleidfaol, 1895. Gweithiodd dros yr achos dirwestol pan oedd yn byw yn Aberdâr. Bu farw 16 Ebrill 1869.

Rhoes ei fab DAVID DAVIES ('Dewi ab Iago'), a fu farw 1913, gymorth mawr i Rhys Evans ac i gerddoriaeth grefyddol yng nghapel Siloa, Aberdâr.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.