THOMAS, WILLIAM (‘Gwilym Mai’; 1807 - 1872), bardd ac argraffydd

Enw: William Thomas
Ffugenw: Gwilym Mai
Dyddiad geni: 1807
Dyddiad marw: 1872
Rhiant: Ann Thomas
Rhiant: Thomas Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac argraffydd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: David James Bowen

mab Thomas Thomas, melinydd, Llanelli a Chaerfyrddin, a'i wraig Ann. (Bu Ann Thomas farw 10 Mai 1828 yn 60 oed, a chanodd ‘Gwilym Mai’ englynion marwnad iddi; gweler Seren Gomer, 1828, 188.) Dilynodd ei grefft ym Merthyr Tydfil, Llanymddyfri, a Chaerfyrddin. Yn Llanymddyfri bu'n gysodydd yn swyddfa David Rice Rees a William Rees, ac yng Nghaerfyrddin gweithiodd yn swyddfa'r Carmarthen Journal gyda William Evans a Benjamin Jones. Yna sefydlodd ei fusnes ei hun yng Nghaerfyrddin. Yr oedd yn eisteddfodwr selog a gwobrwywyd ef yn eisteddfodau Abertawe (1846) a Chaerfyrddin (1852). Cyhoeddodd gasgliadau o'i farddoniaeth, Meillion Mai, 1849; Blodau Dyffryn Tywi, 1854, a hefyd lyfryn hyfforddi mewn cerdd dafod, Clorian y Bardd, 1850. Yn y rhagymadrodd i Clorian y Bardd dywed fod yr amser yn rhy gostus i'r beirdd fedru fforddio'r Drych Barddonol a gramadegau Robert Davies, Nantglyn, a Siôn Rhydderch. Bu'n un o Odyddion Caerfyrddin am 35 mlynedd, ac yn 1857 cyhoeddodd Traethawd ar Odyddiaeth; ynghyd a nifer Cyfrinfaoedd Cymru. Canodd awdl ar Odyddiaeth (Meillion Mai, 18). Yr oedd yn ddiacon yng nghapel Heol Awst, Caerfyrddin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/