RODERICK, JOHN ('John neu Siôn Rhydderch'; 1673 - 1735), almanaciwr, gramadegwr, bardd, ac eisteddfodwr

Enw: John Roderick
Dyddiad geni: 1673
Dyddiad marw: 1735
Rhiant: Elen Roderick
Rhiant: David Roderick
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: almanaciwr, gramadegwr, bardd, ac eisteddfodwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Hanes a Diwylliant; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awduron: William Llewelyn Davies, Enid Pierce Roberts, Llewelyn Gwyn Chambers

Arferid credu mai o waelod Sir Aberteifi yr hanoedd eithr dangoswyd (yn Journal of the Welsh Bibliographical Society, iii, 275-90) mai un o Gemaes, Sir Drefaldwyn, ydoedd; efallai mai ef ydoedd y John mab David Roderick ac Elen ei wraig, a fedyddiwyd yn eglwys Cemaes ar 23 Ebrill 1673. Ond yn B.M. Add. MS. 14874 (a fu'n eiddo iddo), t. 7b, ceir ' Llyfr Cywyddau Siôn Rhydderch, 1709; b. April 11, 1675 '.

Argraffodd a chyhoeddodd yn Amwythig yn 1728 Grammadeg Cymraeg; cafwyd ail argraffiad yng Nghaerfyrddin o wasg J. Harris yn 1824. Gyda John Williams, Witley, Swydd Amwythig, cafwyd hefyd ganddo English and Welch Dictionary . Yr oedd cyn hyn wedi dechrau cyhoeddi cyfres o'i almanaciau ef ei hun - o c. 1715 hyd un y flwyddyn 1736 - y rhain hefyd bron i gyd o Amwythig.

Yr oedd Thomas Jones , almanaciwr arall, wedi cyhoeddi, yn ei Carolau a Dyriau Duwiol, 1696, dair carol gan Siôn Rhydderch; ceir enghreifftiau eraill o'i waith yn yr almanaciau a baratodd ac a gyhoeddodd yntau. Bu iddo gysylltiad agos â mân eisteddfodau ei gyfnod, o un Machynlleth (1701) ymlaen - câi yn ei almanaciau gyfle i alw sylw atynt. Ceir ' Englynion o Fawl i'r Celfyddydgar Gadairfardd John Rhydderch ' yn ei almanac am 1726. Ysgrifennodd lawer o farddoniaeth ei hunan, e.e. marwnad Huw Morys o Bontymeibion, ac amryw eraill sydd yn aros mewn llawysgrifau.

Cyhoeddodd 'bapurlen' ar rifyddeg tuag 1716. Dichon mai hon oedd y drafodaeth Gymraeg gyntaf ar rifyddeg ond nid oes copi ar gael. Cyfeirir ati yn John William Thomas, (1805 - 1840), Elfennau rhifyddiaeth (Caerfyrddin, 1832), 6, a John Roberts (1731 - 1806), Rhyfyddeg neu Arithmetic (Dulyn, 1768), iii.

Am y gwahanol lyfrau a gyhoeddodd yn Amwythig, o 1715 hyd tua 1728, gweler J. Ifano Jones, Hist. of Printing and Printers in Wales. Ceir hefyd yn llyfr Ifano Jones hanes y cysylltiad (na ddaeth dim ohono) rhwng John Rhydderch â'r wasg yn ' Llannerch-y-medd, sir Fôn, y cyhoeddodd Lewis Morris ('Llewelyn Ddu o Fôn') ei 'gynygiadau' ynglyn â hi ym mis Mawrth 1732. Erbyn hynny yr oedd Siôn Rhydderch, a ddisgrifir gan Lewis Morris yn 'Native of Mountgomeryshire,' mewn oedran ac yn ' reduced to very low circumstances.' Yn niwedd 1733 yr oedd Siôn Rhydderch yng Nghaerfyrddin yn trefnu i Nicholas Thomas argraffu almanac 1734. Erbyn 1735 yr oedd yn ôl yn Cae Talhaearn, Cemaes, Sir Drefaldwyn, a chladdwyd ef yng Nghemaes ar 27 Tachwedd y flwyddyn honno.

Bu i rai cofianwyr gymysgu rhyngddo a John Rogers a oedd, yntau, yn argraffu llyfrau yn Amwythig.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.