JONES, THOMAS (1648? - 1713), Llundain ac Amwythig, almanaciwr, gwerthwr llyfrau, argraffydd, a chyhoeddwr

Enw: Thomas Jones
Dyddiad geni: 1648?
Dyddiad marw: 1713
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: almanaciwr, gwerthwr llyfrau, argraffydd, a chyhoeddwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Hanes a Diwylliant; Argraffu a Chyhoeddi; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd yn Tre'r Ddôl, gerllaw Corwen, 1 Mai 1648 (fel y tybir). Dywedir iddo fyned i Lundain pan oedd yn 18 oed i weithio fel teiliwr; wedi hynny fe'i ceir yn mynychu ffeiriau yng Nghaer, Amwythig, Wrecsam, a Bryste - yn gwerthu llyfrau, etc., o bosibl. Y mae H. R. Plomer (Dict. of Printers and Booksellers … at work … from 1668 to 1725) yn cysylltu ei enw â The Character of a Quack Doctor, 1676. Tua diwedd 1679 cyhoeddodd rifyn cyntaf (sef y rhifyn am 1680) ei gyfres o 32 o almanaciau Cymraeg, cyfres a barhaodd hyd 1712. Y mae'r 'Letters Patent' yn rhoddi iddo (ac iddo ef yn unig) yr hawl i ysgrifennu, argraffu, a chyhoeddi almanac 'in the British Language' wedi eu dyddio 1 Ionawr 1679, ac y mae caniatâd Cwmni y Stationers (Dinas Llundain) iddo gyhoeddi (efe yn unig) almanaciau 'in the Welsh tongue' wedi ei ddyddio y dydd cyntaf o fis Mawrth yn yr un flwyddyn. Yn 1681 yr oedd ganddo siop yn Paul's Alley, yn 1685 yr oedd wedi ymsefydlu yn Blackfriars, ac y mae rhagair ei eiriadur, 1688, wedi ei ysgrifennu o'i dy yn ymyl arwydd yr eliffant yn Lower Moorfields. Y mae tri llyfr a gyhoeddwyd ganddo yn Llundain yn neilltuol brin: (a) Llyfr Plygain, 1683; (b) Athrawiaeth i Ddysgu Ysgrifennu amriw fath ar ddwylo, Wrth yr hyn y Geill pawb ddysgu Ysgrifennu gartref, 1683 (y 'copy-book' Cymraeg cyntaf, hyd y gwyddys, gweler Journal of the Welsh Bibliographical Society , iv, 67, 113); a (c) Y Gwir er Gwaethed yw, 1684, hanes y 'Popish Plot' ar gân (Journal of the Welsh Bibliographical Society , iv, 243); ceir copïau o'r tri yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn 1687-8 cyhoeddodd y Llyfr Gweddi Gyffredin, fersiwn Gymraeg o'r Deugain-namyn-un Erthyglau Eglwys Loegr, a Salmau Cân Edmwnd Prys. Cyhoeddiad sylweddol arall yn perthyn i'w gyfnod yn Llundain oedd Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb , 1688, sef geiriadur. Erbyn hyn yr oedd iddo fusnes gweddol helaeth fel llyfrwerthwr a chanddo gynrychiolwyr yn gwerthu drosto yng Nghaer, y Fenni, y Bala, Dolgellau, Llanfyllin, Croesoswallt, Trallwng, ac Amwythig. Ni ellir dywedyd gyda sicrwydd pa bryd yr ymsefydlodd yn Amwythig, eithr cred rhai llyfryddwyr iddo gyhoeddi Carolau a Dyriau Duwiol , 1696 (gwaith sydd yn cynnwys 45 o'r 54 cân neu gerdd a oedd yn llyfr prin Ffoulke Owens, sef Cerdd-Lyfr, 1686, gyda 115 wedi eu hychwanegu gan Thomas Jones) yn Amwythig. Gwaith arall cymharol gynnar a ddaeth o Amwythig, efallai, oedd Artemidorus: Gwir Ddeongliad Breuddwydion (1698?; y mae copi amherffaith yn Ll.G.C.). Gellir bod yn bendant wrth ddywedyd iddo gyhoeddi Attebion i'r Hôll Wâg Escusion … yn erbyn dyfod i dderbyn y Cymmun bendigedig, 1698, a Taith y Pererin, 1699, yn y dref honno. Yr oedd Jones yn brysur erbyn hyn gyda'i wahanol gyhoeddiadau a'r gwaith o werthu, ac yr oedd ar yr un pryd yn gwneuthur Amwythig yr hyn a fu am rai degau o flynyddoedd wedi ei amser ef - yn brif ganolfan argraffu a chyhoeddi llyfrau Cymraeg. Ceir manylion am y gwahanol fannau yn y dref yr oedd yr argraffydd a'r cyhoeddwr yn byw neu yn cynnal ei fusnes ynddynt gan Llewelyn C. Lloyd yn 'The Book Trade in Shropshire' (Trans. Shropsh. Archaeological … Soc., xlviii, 1935-6).

Y mae rhestr y gweithiau y bu Thomas Jones yn gyfrifol amdanynt (yn Llundain ac Amwythig) yn faith ac yn bwysig; bu'n gymwynaswr mawr i lenyddiaeth Cymru. Nid pethau-dros-dro ydoedd ei almanaciau hyd yn oed; ceid ynddynt garolau a cherddi o waith rhai o'r beirdd, ac y maent, o'r herwydd, yn parhau yn eu diddordeb a'u gwerth hyd heddiw. Rhoddir manylion am y gwahanol gyhoeddiadau yn Journal of the Welsh Bibliographical Society (i, ii, iv) a chan Ifano Jones yn ei Hist. of Printing and Printers in Wales; gweler hefyd erthygl gan T. Shankland yn Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, 1912-3. Y mae iddo ddiddordeb ar un cyfrif arall hefyd; gellir ei alw yn dad newyddiaduriaeth Gymreig. Ymddengys iddo gychwyn cyhoeddi papur newyddion at wasanaeth Cymry; cesglir hyn oddi wrth gyfeiriadau yn ei almanaciau am 1691 a 1692 (Journal of the Welsh Bibliographical Society , ii, 99). Ni lwyddodd yr antur ac nid oes (hyd y gwyddys) gopi o'r papur ar gael; rhoes y cyhoeddwr y bai ar y siopwyr a werthai bethau drosto a dywedyd na bu iddynt ordro copïau. Dywedodd T. W. Hancock (Bye-Gones, 25 Mai 1881) i Thomas Jones gyhoeddi'r hyn a elwid yn yr oes honno yn 'news-sheet.' Yr enw oedd A Collection of all the Material News, Printed and sold by Thomas Jones in Hill's Lane near Mardol. Price 1 d. - yn 1705, efallai. Os gwnaeth, yna fe ddylid cyfrif Amwythig ymhlith y trefi cyntaf y tu allan i Lundain y cyhoeddwyd newyddiaduron ynddynt; ym mis Medi 1701 y dechreuwyd cyhoeddi y Norwich Post gan Francis Burges (Llewelyn C. Lloyd, op. cit.).

Bu Thomas Jones farw 6 Awst 1713 yn ôl 'Marw-nad am yr enwog Sywedydd Thomas Jones yr hwn a fu farw y 6 Dydd o fis Awst 1713'; efe, y mae'n debyg, ydoedd y 'Thomas Jones, of ye Castle Hill' a gladdwyd ar 8 Awst 1713 (cofrestr eglwys S. Mary, Amwythig).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.