Ganwyd yn 1805 yn fab i William Thomas, llafurwr, Allt Isaf, Pentir. Cafodd deirblwydd (7-10 oed) o ysgol; bu wedyn yn hogyn chwarel, ond mynychai ysgol nos, ac amlygodd hoffter neilltuol o rifyddeg.
Yn 17, er mwyn cael rhagor o gyfle i ddarllen, aeth yn deithiwr dros lyfrwerthwr o Fiwmares; ond ymhen y flwyddyn aeth am dri mis i ysgol yr almanaciwr Robert Roberts (1776-1836), yng Nghaergybi. Yna, agorodd ysgol yn Nhregarth, a dechreuodd ar ei lyfr Elfenau Rhifyddiaeth. Priododd yn 21 óed, a symudodd i Fangor; os yw'r hanes yn gywir, bwriodd gyfnod drachefn yn gwerthu llyfrau ym Môn; ond sut bynnag, cafodd J. H. Cotton ysgol iddo yn Ffestiniog. Anghydwelodd â chlerigwr yno, collodd yr ysgol, a dychwelodd i Fangor i gadw ysgol; yno, ddiwedd 1830, y cyhoeddodd y rhifyn cyntaf o'i Elfenau Rhifyddiaeth, y byddai'n gywirach ei alw'n 'Elfennau Mathemateg' - nid mor elfennol chwaith; daeth yr ail rifyn yn 1831 a'r trydydd yn 1832; soniai'r awdur hefyd am gyhoeddi Dwned (h.y. gramadeg) Cymraeg, a Geiriadur Cymraeg 'gwyddonol a celfyddydol.' Cyhoeddodd Ffordd anffaeledig i Gymro uniaith ddarllen Saesneg yn gywir yn 1832, un o'r llyfrau cyfarwyddyd cynharaf. Bu am chwe mis, yn ystod 1832, yn olygydd y cyfnodolyn Tywysog Cymru a gyhoeddid yng Nghaernarfon. Yn 1833 dug allan Geiriadur Cymreig a Seisonig , llyfr a andwywyd gan ddilyn syniadau W. O. Pughe - amddiffynnodd 'Arfonwyson' y syniadau hyn yn frwd yn Seren Gomer, yn nes ymlaen.
Yn Awst 1834 aeth i Lundain i chwilio am waith; yno daeth yn aelod o'r Cymreigyddion, ac yr oedd yn 'fardd' swyddogol y Gymdeithas yn 1836 a 1837. Bu'n ysgrifennydd preifat i William Cobbett, ond pan fu farw hwnnw, bwriwyd ef drachefn i segurdod, a'r pryd hynny y cwplaodd Trysorfa yr Athrawon, 1837, at wasanaeth yr ysgolion Sul. Dangoswyd llythyr ganddo ar 'gomed Halley ' i'r Seryddwr Brenhinol, G. B. Airey, a gwnaeth hwnnw le iddo yn Arsyllfa Greenwich; yno dygai allan almanaciau Cymraeg, a sgrifennodd lawer i Seren Gomer a chylchgronau eraill.
Ond yr oedd yng ngafael y dyciau, a bu farw 12 Mawrth 1840; claddwyd yn Greenwich. Anaml y gwelwyd rhagorach enghraifft o oruchafiaeth ar anawsterau dybryd nag a welir yng ngyrfa 'Arfonwyson.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.