Ganwyd 1777, yn fab i John Roberts ('Siôn Robert Lewis'), Caergybi. Dilynodd ei dad fel cyhoeddwr a golygydd almanaciau poblogaidd Caergybi, o dan y teitlau Cyfaill Glandeg, Cyfaill Taeredd, etc., o 1805 hyd 1837. Argraffwyd y rhain gan John Jones o Drefriw gyda ffugargraffnod Dulyn arnynt er mwyn osgoi treth y Llywodraeth. Cyhoeddodd hefyd Eurgrawn Môn, neu y Drysorfa Hanesyddol, 1825-6, a ddarfu gyda rhif 21. Ef hefyd oedd awdur Daearyddiaeth Gymreig (Caer, 1816), a Seryddiaeih neu lyfr gwybodaeth yn dangos rheoliad y planedau ar bersonau dynion (Llanrwst, 1830). Bu farw 2 Awst 1836 yn 58 mlwydd oed.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.