ROBERTS, JOHN ('Sion Robert Lewis '; 1731 - 1806), awdur, almanaciwr, ac emynydd

Enw: John Roberts
Ffugenw: Sion Robert Lewis
Dyddiad geni: 1731
Dyddiad marw: 1806
Priod: Margaret Roberts (née Jones)
Plentyn: Robert Roberts
Rhiant: Robert Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur, almanaciwr, ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Thomas Isfryn Jones

Ganwyd yn 1731 yn Llanaelhaearn, Sir Gaernarfon. Yr oedd yn fab i ffarmwr, Robert Lewis, ac yn ystod ei ieuenctid arferai fugeilio'r defaid i'w dad. Cafodd dröedigaeth wrth wrando ar Howel Harris yn pregethu yn y gymdogaeth a dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.

Ymsefydlodd yng Nghaergybi tua 1760, pryd y cafodd drwydded oddi wrth esgob Bangor i agor ysgol. Gwysiwyd ef o flaen llys Esgob Bangor yn Awst 1765 oherwydd iddo gadw ysgol yn Llaniestyn heb drwydded.

Ysgrifennodd lawer o lyfrau ar bynciau gwahanol. Ymhlith ei lyfrau cyhoeddedig ceir Rhai Hymnau, 1760, a ysgrifennwyd gyda chymorth Richard Jones; Yr Anedigaeth Newydd 1762, cyfieithiad o lyfryn Saesneg The New Birth; Drych y Cristion, 1766, sef ail-argraffiad Carwr y Cymru cyhoeddedig gan T. Gouge ac S. Hughes 1677; Hymnau a Chaniadau, 1764; Rhyfyddeg neu Arithmetic, 1768, y llyfr rhifyddeg cyntaf yn Gymraeg; Geirlyfr Ysgrythurol, 1773, y geiriadur ysgrythurol Cymraeg cyntaf; Caniadau Preswylwyr y Llwch, 1778; Yr Athrofa Rad, 1788. Yr oedd y llyfrau a gyhoeddwyd ac a ysgrifennwyd gan Roberts yn werthfawr ond y mae'r awdur yn fwyaf adnabyddus am ei 'Almanaciau.' Dechreuodd gyhoeddi y rhai hyn tua 1761 a pharhaodd i'w cyhoeddi am 44 blynedd. Ar ôl ei farwolaeth cyhoeddwyd hwy hyd 1837 gan ei fab Robert Roberts.

Yn 1766 priododd Margaret Jones, Bodedern, sir Fôn, a ganed iddynt chwech o blant. Bu farw 19 Medi 1806.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.