ROGERS, JOHN (bu farw 1738), gwerthwr llyfrau ac argraffydd yn Amwythig;

Enw: John Rogers
Dyddiad marw: 1738
Rhiant: Gabriel Rogers
Rhiant: Reynold Rogers
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwerthwr llyfrau ac argraffydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Mab Reynold Rogers, groser, Llundain. Efallai ei fod yn fab i Gabriel Rogers (bu farw 1705), a oedd yntau yn werthwr llyfrau yn Amwythig. Dechreuodd argraffu tua 1706, ac y mae'n bosibl mai ei lyfr cyntaf oedd A Sermon preach'd at the Funeral of … James Owen, Minister of the Gospel in Shrewsbury. April the 11th, 1706. By Matthew Henry, 1706?. Yn 1707 cyhoeddodd ddau lyfr Cymraeg : Egwyddorion y Grefydd Gristianogawl a Godidawgrwydd Rhinwedd, yn 1708 argraffodd almanac - Cennad oddiwrth y Ser, ac yn 1714 argraffiad o Dirgelwch, sef llyfr mwyaf adnabyddus Morgan Llwyd o Wynedd. Un faled Gymraeg o'i wasg a gofnodir gan J. H. Davies (Bibliog. of Welsh Ballads). Ymddengys iddo barhau i argraffu hyd 1729 o leiaf. Bu Nicholas Thomas yn dysgu ei grefft yn swyddfa John Rogers neu yn swyddfa Shôn Rhydderch. Claddwyd un ' John Rogers, Bookseller,' 9 Mai 1738.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.