Mab Robert Williams, brodor o Landdoged, ac Elizabeth Jones, yr Efail, Glanwydden, Creuddyn, Arfon; ganwyd ef yng nghartref ei fam, 20 Mehefin 1806. Dengys ei ysgrifau ei ddiddordeb cynnar mewn llenyddiaeth ac ieithoedd, ac ymroes i'w dysgu ac i ddiwyllio ei feddwl. Wedi cwrs byr yn ysgol John Hughes, periglor Llanddulas, daeth tan nawdd teulu Bodysgallen a'i anfon i ysgol Robert Watkin Lloyd, Tamworth, i'w baratoi i Rydychen. Naw mis a arhosodd yno. Dychwelodd adref a chael ei hun mewn argyfwng - ei noddwr wedi ei siomi, ei bobl wedi digio.
Cydiodd eilwaith yn ei efrydiau a chael ei wahodd i gadw ysgol yn Eglwysbach (1830-3), a dechrau pregethu. Bu'n weinidog yn Llansilin a Moelfre (1833-6), Rhos a'r Brymbo (1836-41), y Drenewydd (1841-53), Rhos, a Phenycae (1853-6). Cadwodd ysgol i hyfforddi ymgeiswyr am y weinidogaeth mewn rhai o'r lleoedd hyn.
Daeth tan ddylanwad y mudiad Campbelaidd. Cyfieithodd draethawd Alexander Campbell ar faddeuant, ac yn 1839 dechreuodd gyfieithu ei Destament Newydd a'i alw Yr Oraclau Bywiol, 1842. Bernir heddiw mai cyfieithiad llythrennol o Destament Alexander Campbell a gweithiau George Campbell, J. Macknight, a P. Doddridge ydyw Oraclau Bywiol, ac nid cyfieithiad o'r Groeg fel y taerodd yr awdur. Ei waith mwyaf gorchestol ydyw Ffugyrau y Beibl. Cais ydyw i hyfforddi'r darllenydd yn egwyddorion gwyddor esboniadaeth. Nid llai ei gyfraniad fel ieithydd, a gwelir bod ganddo syniad clir am swyddogaeth y gramadegwr. Y mae delw'r farn annibynnol ar ei erthyglau, a'u hamcan yw goleuo'r deall, diwyllio'r meddwl, a gwneuthur dyn yn ddinesydd rhydd. Bu farw 15 Tachwedd 1856 a chladdwyd ef ym mynwent Penycae lle ceir cofgolofn ar ei fedd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.