Cangen iau oedd y teulu hwn o deulu Wynn, Gwydir. Sefydlwyd ef trwy briodas Griffith Wyn (mab John Wynn ap Meredydd, a fu farw 1559, ac ewythr Syr John Wynn, Gwydir) gydag aeres Robert Salusbury, Berthddu. Trydydd mab Griffith Wynn oedd
OWEN GWYNN (GWYNNE, GWYN, neu WYN) (bu farw 1633), meistr Coleg S. Ioan, Caergrawnt Addysg.
Cafodd ef, 1584, un o'r ysgoloriaethau Cymreig a sefydlasid yn y coleg hwnnw o dan dermau ewyllys ei ewythr, Dr. John Gwyn - ewyllys yr oedd ei dad yn ysgutor iddi - a graddiodd yno yn 1588. Y flwyddyn ddilynol' etholwyd ef i gymrodoriaeth a sefydlasid o dan yr un trefniant, ac aeth ymlaen nes cael ei M.A. yn 1591 a B.D. yn 1599. Bu'n rheithor Honington, Suffolk, o 1600 hyd 1605 a dilynwyd ef yn Honington gan ei 'gâr' a'i ddisgybl, John Williams (archesgob York yn ddiweddarach), ac yntau yn cael bywoliaeth East Ham yn ei lle (1605-11). Yr oedd yn drysorydd ('bursar') y coleg o 1608 hyd 1611, ac yn 1612 fe'i dewiswyd yn bennaeth ('Master') - i raddau helaeth trwy ddylanwad John Williams ymhlith y cymrodyr a thros ben gŵr a oedd yn fwy ei fri, sef Thomas Morton, esgob Durham yn ddiweddarach; credai Hacket, cofiannydd John Williams, fod yn edifar gan Williams am hyn yn ddiweddarach. Yn yr un flwyddyn fe'i gwnaethpwyd yn D.D. yn ystod ymweliad brenhinol ' without the uneasiness of performing exercise ' a rhoddwyd iddo fywoliaeth Luffenham, Suffolk; gwrthododd archddiaconiaeth Amwythig a gynigiwyd iddo gan Neile, esgob Coventry a Lichfield. Yn rhinwedd ei swydd fel is-ganghellor cymerodd ran yn nerbyniad swyddogol y brenin Iago a thywysog Cymru yn 1615. Ni ddaeth yr un dyrchafiad arall iddo nes i'r tywysog Siarl (1621) ei enwi i lanw esgobaeth Tyddewi; braidd yn glaear oedd Gwyn yn y mater ac fe ddewiswyd Laud; yr un flwyddyn etholwyd Williams yn esgob Lincoln ac fe geisiodd gysuro Gwynne, ei hen athro, trwy roddi iddo archddiaconiaeth Huntingdon a ficeriaeth Buckden (y ddwy yn esgobaeth Lincoln) a'i wneuthur yn brebendari yn eglwys gadeiriol Lincoln (1622). Awgrymwyd rhoddi iddo esgobaeth Llanelwy ar farwolaeth Richard Parry (1623) eithr ni ddaeth dim o hynny, ac nid yw'n debyg, ychwaith, iddo gael yr un o'r pedair bywoliaeth (Aberdaron, a ddaeth yn wag yn 1624, yn eu plith) y noddasai Williams y coleg â hwynt, er iddo gael ei ystyried. Yn ystod y blynyddoedd canlynol yr oedd yn cwplâu'r trefniadau ynglŷn â rhodd Williams o lyfrgell i'r coleg - yr unig gofadail bwysig i gyfnod Gwyn fel meistr. Yn 1626, ar gais yr esgob Neile (ac, yn ddiamau, o dan ddylanwad Williams, (a oedd yr amser hwn yn cael ffafr Buckingham) bu'n ffafrio ac yn cynorthwyo ethol Buckingham yn ganghellor y brifysgol yn erbyn dewisddyn y Piwritaniaid - amgylchiad a greodd storm wleidyddol fawr, eithr ni bu Buckingham fyw i dalu'r pwyth yn ôl iddo. Nid ydyw na Hacket na Baker yn rhoddi gair rhy dda iddo fel meistr - ' a soft man and prone altogether to Ease ' ydyw geiriau Hacket. Ar y llaw arall dywed Richard Cole ei fod yn 'sufficient' i'w swydd, mewn cyfnod pryd yr oedd ymysg hen efrydwyr y coleg ddynion fel Wentworth, Fairfax, a Falkland - heblaw Williams ei hunan. Cyflwynodd John Owen, yr epigramydd, ddau epigram Lladin iddo (I, iii, 166; II, 89). Nid oedd yn rhyw uchelgeisiol iawn ar ei ran ei hun eithr yr oedd yn gofalu am fuddiannau ei 'geraint' o Gymru; yr oedd William a Henry Bodwrda yn gymrodyr dano, a chawsant eu cofio yn ei ewyllys; ac os methodd Robert Wynn, Gwydir (a dderbyniasai y meistr fel efrydydd), â chael ei ethol yn gymrawd, nid ar y meistr yr oedd y bai; gofalodd ef fod Robert yn cael lle blaenllaw pan oeddid yn croesawu'r brenin a'r tywysog i'r coleg yn 1615. Pan fu farw yn 1633 fe'i claddwyd yng nghapel y coleg; ni wnaeth yr un gymynrodd o bwys i'r coleg eithr credir mai efe a bioedd Feibl Cymraeg a ddaeth yn eiddo i'r coleg pan fu farw.
Aeth stad Berthddu i frawd hŷn Owen Gwynn, sef
Hugh Wynn I (neu Hugh Gwynne).
Ychwanegodd ef stad Bodysgallen ati trwy briodi'r aeres, merch Richard Mostyn. Bu cweryl rhyngddo a Syr John Wynn, Gwydir, cweryl a ddiweddodd yn Llys Ystafell y Seren. Bu'n siryf sir Ddinbych yn 1609; bu ei fab Robert Wynn I yn siryf yn 1618. Mab hynaf Robert Wynn I oedd
HUGH WYNN II (bu farw 1674), cyrnol ym myddin plaid y brenin Milwrol.
Yn ystod y Rhyfel Cartrefol bu'n bennaeth catrawd Gymreig a fu'n ymladd dros y brenin yn y cyrchoedd o gwmpas Caer ac a ddygwyd i mewn i gryfhau gwarchodlu'r ddinas. Yr oedd Wynn yn un o'r gwystlon a gynigiwyd er gwarantu cario allan dermau'r ymostyngiad pan gwympodd Caer (1 Chwefror 1645); wedi hynny bu'n cymryd rhan yn yr hyn a wnaethpwyd er mwyn amddiffyn Conwy. Gwnaeth betisiwn, 14 Ebrill 1649, am ganiatâd ' for compounding,' gan addef bod ei ymddygiad yn y rhyfel yn annoeth ('ill-advised'); dirwywyd ef hyd £63 13s. 4c. (gwerth pryniant blwyddyn) a chafodd ei ryddhad ar 6 Mehefin 1650, eithr ni chwaraeodd unrhyw ran ym mywyd cyhoeddus y cyfnod rhwng y ddau deyrnasiad. Wedi'r Adferiad, fodd bynnag, bu'n ustus heddwch, yn ddirprwy-raglaw, ac yn gomisiynnwr trethi'r Llywodraeth yn sir Gaernarfon; ganddo ef hefyd yr oedd yr unig hawl i enwi rhai i gael yr ysgoloriaethau a sefydlasid o dan waddol addysgol ei hen-ewythr Owen Gwynne (uchod). Priododd (1) â merch Richard Vaughan, Corsygedol, (2) â merch yr arglwydd Bulkeley - yr ail wraig yn weddw Syr William Williams, Vaynol. Y mab hynaf o'i briodas gyntaf oedd
Robert Wynn II (1655 -?).
Dilynodd yntau draddodiad y teulu trwy fynd i Goleg S. Ioan, Caergrawnt (1673). Gwerthodd y Berthddu - yr oedd ei dad eisoes wedi benthyca llawer iawn o arian ar y stad. Ei fab ef, Robert Wynn III, aelod seneddol dros sir Gaernarfon yn 1754, oedd yr olaf o'r llinach. Mab ieuengaf Robert Wynn II oedd
Hugh Wynn III (bu farw 1754), prebendari S. Paul Crefydd.
Cafodd ei addysg yn Eton ac yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt, gan ei dderbyn yno ar 19 Mawrth 1713, a graddio Ll.B. yn 1719 a Ll.D. yn 1728. Ordeiniwyd ef yn Llundain yn 1720. Cafodd fywiolaethau Dolgellau a Llanidan (sir Fôn) yn 1725, eithr rhoes yr ail i fyny yn 1731 pan ddaeth yn brifgantor (nid canghellor, fel y dywedir yn ei farw-goffa, Gent. Mag., 1754, 283) eglwys gadeiriol Bangor, swydd a gadwodd gyda bywoliaeth Llanbedr Dyffryn Clwyd hyd 1734 pryd y cyfnewidiodd hi am un Llanrhaeadr. O'r flwyddyn 1733 yr oedd yn archddiacon Meirionnydd ac yn rheithor Llandudno. Yn 1753 daeth yn brebendari Salisbury; yn 1750 gwnaethpwyd ef yn brebendari S. Paul. Priododd, yn olynol, i deuluoedd Corbett (Ynys-y-maengwyn), a Vaughan (Corsygedol). Bu farw 13 Hydref 1754 gan adael unig aeres a briododd â Syr Roger Mostyn (1776) ac a ddug, felly, stad Bodysgallen yn ôl i'r teulu a'i pioedd cynt.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.