PARRY, RICHARD (1560 - 1623), esgob a chyfieithydd

Enw: Richard Parry
Dyddiad geni: 1560
Dyddiad marw: 1623
Priod: Gwen ferch John ap Rhys Wyn
Plentyn: Catherine Thomas (née Parry)
Rhiant: Elen ferch Dafydd ap John
Rhiant: John ap Harri
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob a chyfieithydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Glanmor Williams

Ganwyd yn 1560, yn fab John ap Harri, Pwllhalog, Cwm, Sir y Fflint, a Rhuthyn, a'i wraig, Elen ferch Dafydd ap John, Llanfair Dyffryn Clwyd. Addysgwyd Richard Parry yn Ysgol Westminster wrth draed Camden. Yn 1579 aeth i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen, lle y graddiodd yn B.A. 5 Chwefror 1584. Ordeiniwyd ef yn ddiacon gan Robinson, esgob Bangor, 5 Ebrill 1584, ac ar 4 Mai rhoddwyd iddo gyfran o Lanelidan, cynhysgaeth ysgol ramadeg Rhuthyn. Tra oedd yn bennaeth ysgol Rhuthyn, graddiodd yn M.A., 4 Mehefin 1586, ac yn ddiweddarach, 4 Mawrth 1594, yn B.D. Ar 24 Rhagfyr 1592 gwnaed ef yn ganghellor Bangor; 1 Ionawr 1593, yn ficer Gresford; yn 1596, yn rheithor Cilcain; ac ar 11 Ebrill 1599, yn ddeon Bangor. Wedi'i gysegru'n esgob Llanelwy, 30 Rhagfyr 1604, cadwodd 'in commendam' archddiaconiaeth Llanelwy, a bywiolaethau Gresford (hyd 1609) a Chilcain (hyd 1622). Meddiannodd hefyd fywiolaethau Rhuddlan (1605-18), Cwm (1610-16), a Llanrwst (1616-23). Yn 1610, ar gais iarll Salisbury, ceisiodd gyflafareddu rhwng Syr John Wynn a'i denantiaid yn Nolwyddelan, ond yn ofer. Dengys ei adroddiad ar gyflwr ei esgobaeth yn Ionawr 1611 ei bryder mawr rhag trawsfeddiannau lleygwyr, a diffyg gweinidogion dysgedig trigiannol.

Cofir ef yn bennaf am ei fersiynau diwygiedig o'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin, a gyhoeddwyd yn 1620 a 1621. Er mai Parry a gafodd y clod, ei frawd-yng-nghyfraith, y Dr. John Davies o Fallwyd, a gyflawnodd y rhan fwyaf o'r gwaith.

Priododd, c. 1598, â Gwen ferch John ap Rhys Wyn, a bu iddynt bedwar mab a saith merch. Bu farw yn Niserth, 26 Medi 1623, a chymynroddodd bensiwn o £6 y flwyddyn yng Ngholeg Iesu i ysgolhaig tlawd o Ruthyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.