Ganwyd ym Mhig-y-swch, Llanuwchllyn, Meirionnydd, 22 Mehefin 1786, yn fab Evan Ellis, trwsiwr ffyrdd. Ymunodd ag eglwys y Bedyddwyr yn Llanuwchllyn yn 1806 a dechrau pregethu yn 1809. Ar ôl bod yn ysgol Jesse Jones, Fforddlas, aeth i athrofa'r Fenni yn 1811, gan ymadael yn 1813 i fod yn bregethwr ac ysgolfeistr teithiol. Yn 1814 priododd Mary Jones, Fforddlas, ac yn y flwyddyn ganlynol ordeiniwyd ef a'i sefydlu'n fugail ar eglwysi Llannefydd, Llansannan, a Llangernyw. Oherwydd na ddoniwyd ef yn helaeth fel areithydd, nid oedd yn bregethwr poblogaidd, eithr yr oedd yn fawr ei fri fel diwinydd ac esboniwr ysgolheigaidd. Yr oedd yn feddyliwr pur wreiddiol, yn hyddysg yn hanes yr Eglwys, ac yn ysgolhaig o gryn safon. Yn 1819 cafodd alwad i fugeiliaeth Cefn Mawr ac yno y bu hyd ei farw, gan roddi gwasanaeth gwerthfawr i'w enwad fel pregethwr, ysgrifennwr, a threfnydd. Ar wahân i feithrin a chryfhau ei eglwys ei hun bu iddo ran amlwg mewn sefydlu naw eglwys arall yn y cylchoedd cyfagos. Ymhlith ei liaws cyhoeddiadau y mae'r rhai canlynol: Unoliaeth a Gweledigaeth yr Eglwys, sef, Llythyr Cymanfa Cefn Mawr, 1828; Arddangosiad syml o Syniadau Gwahaniaethol, neu Egwyddorion Priodol, y Bedyddwyr Crediniol, 1829; Anogaeth i Athrawon ac Athrawesau ein Hysgolion Sabothol, 1830; Cofiant Abel Vaughan. Yn ei brif waith, Hanes y Bedyddwyr ac Egwyddorion Sylfaenol ein Cyfundraeth, bwriadasai olrhain hanes yr enwad o'r dechrau hyd at ei ddydd ef ei hun, ond bu farw cyn cwplàu'r gwaith, a phedair rhan yn unig a gyhoeddwyd. Yn ddiweddarach rhestrwyd ei ddefnyddiau gan Spinther James, ac ef hefyd a gasglodd ei lythyrau sydd yn awr yng nghasgliad Spinther yn y Llyfrgell Genedlaethol; y mae ei draethodau ar y Tadau Apostolaidd hefyd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bu farw 28 Mawrth 1864.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.