Ganwyd yn Llandysul, ond o Eglwyswrw yn Sir Benfro yr oedd ei deulu, ac fel dyn o Eglwyswrw y cyfeirir ato gan Richards o Lynn. Ymaelododd yn eglwys Pen-y-bont, Llandysul, a dechreuodd bregethu. Yn ôl David Jones (Bed. Deheubarth, 88), yn 1796 y bu hyn; ond y mae peth amheuaeth, oblegid dywed David Jones iddo ddechrau pregethu yn yr un flwyddyn â Daniel Davies, Talgoed, ac yn ôl Joshua Thomas (Hanes y Bed., 623), yn 1792 y cychwynnodd hwnnw. Aeth i academi Bryste am bedair blynedd, dan Ryland, a dystiai mai efe oedd y myfyriwr galluocaf a fu ganddo erioed - a barnai Thomas Shankland yn ein dyddiau ni mai Evan Jones oedd y galluocaf o wrthwynebwyr Richards o Lynn. Os yw dyddiadau David Jones yn gywir, y mae'n rhaid bod Evan Jones hyd yn oed pan oedd yn y coleg wedi dechrau cymryd ei ran yn y dadleuon a oedd ar y pryd yn corddi'r enwad yn y de-orllewin, oblegid y mae William Richards yn ensynio mai efe oedd yn fwyaf blaenllaw yn yr erlid yng nghymanfa Penybont yn 1797 ar John Williams ('Siôn Singer'). Bwriedid galw Evan Jones i fugeilio Penybont, ond ni ddygymyddai ag 'arddodiad dwylo'; felly ar 5 Tachwedd 1800 derbyniodd alwad eglwys (newydd) Bethania, Aberteifi. Yn y cyfamser yr oedd rhwyg 1799 wedi digwydd, a daeth Evan Jones i'r maes dros y Calfiniaid. Cyhoeddodd yn 1801 neu 1802 bamffledyn, Traethawd Byrr ar Dduwdod Crist, yn ymosod ar William Richards; ac wrth gwrs, atebwyd ef yn chwyrn gan Richards mewn amryw o'r Papurynnau Achlysurol. Enillodd boblogrwydd mawr fel pregethwr, hyd yn oed yn Broadmead (Bryste) pan oedd yn fyfyriwr; rhwng 1800 a 1810 gwelir ei enw'n fynych yn hanes cymanfaoedd a chyrddau chwarter y Bedyddwyr; ac y mae traddodiad na fynnai Christmas Evans bregethu ar ei ôl. Ond byddai'n meddwi 'n gyhoeddus - edliw William Richards yn 1802 iddo 'ei oferedd, yn enwedig ar hyd ffeiriau a thafarnau Castell Newydd,' e.e. yn 1800. Dygymyddwyd â'i ffaeleddau am gryn amser, ond yn 1810 bu'n rhaid ei ddiarddel. Ar ôl cael ei edfryd i aelodaeth eglwysig fwy nag unwaith, syrthiodd ymaith yn gyfan gwbl. Bu farw yn Eglwyswrw 10 Rhagfyr 1819, yn 42 oed.
Heblaw'r pamffledyn uchod, cyhoeddodd yn 1809 (Cardiff Catalogue) Traethawd ar faddeuant pechod , cyfieithiad o waith Abraham Booth; dywed David Jones iddo hefyd gyhoeddi llyfryn, Bendithion Rhad, ac nid Prynedig.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.