RICHARDS, WILLIAM (1749 - 1818), dadleuydd diwinyddol a gwleidyddol

Enw: William Richards
Dyddiad geni: 1749
Dyddiad marw: 1818
Rhiant: Henry Richards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dadleuydd diwinyddol a gwleidyddol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd tua diwedd 1749 ym Mhenrhydd yn Sir Benfro (nepell o dref Aberteifi). Bedyddwyr oedd ei rieni, y tad (Henry Richards) yn aelod yn Rhydwilym a'r fam yng Nghilfowyr; ac yn Rhydwilym (1769) y bedyddiwyd y mab; ond symudasai'r teulu yn 1758 i Ben-coed, Meidrym, ac ar dir a brynwyd gan Henry Richards y codwyd capel Salem Meidrym yn 1769; yno, yn 1773, y dechreuodd William Richards bregethu. Ni chafodd ond blwyddyn o ysgol yn blentyn, ond bu yn athrofa'r Bedyddwyr ym Mryste am flwyddyn ym 1775; urddwyd ef yn Pershore (1775), ond symudodd i King's Lynn yn 1776; yno y bwriodd weddill ei oes, ar wahân i ymweliadau gweddol fynych â'i henfro, yn enwedig o Fedi 1795 hyd Fawrth 1798, dan afiechyd; a thrachefn o ddiwedd 1799 hyd ddechrau 1802, pan breswyliai ym Mharc-Nest uwchben Castellnewydd Emlyn. Dysgodd sgrifennu Saesneg yn rhugl, ac yr oedd hefyd yn glasurwr pur dda; ond nid anghofiodd mo'i Gymraeg, fel y dengys ei bamffledau miniog, heb sôn am ei Eiriadur Cymraeg a Saesneg , 1798, ac yr oedd ei 'Cambrian accent' yn destun peth difyrrwch i rai o'i frodyr yn Lloegr. Gweithiodd yn egnïol yn Lynn, ond ar ôl 1802 nid oedd yn fugail yno ond mewn enw. Cefnodd ar Galfiniaeth yn bur fore; cefnodd hefyd ar Drindodiaeth yn yr ystyr gyffredin - eto ymwrthodai â'r enw 'Undodwr' a gellid tybied mai 'Trindodwr Ysgrythurol,' neu Sabeliad, ydoedd. Ond ni chefnodd byth ar fedydd troch, nac yn wir ar gymundeb caeth, oblegid daliai fod arfer yr Eglwys Fore'n rhwymo Cristnogion byth wedyn. Yn wir, ei ddehongliad ef o holl hanes Cristnogaeth yw mai hanes dirywiad o'r patrwm cyntefig ydyw - gweler ei draethawd The History of Antichrist, 1784 (fersiwn Gymraeg, Llun Anghrist, 1790); lluniai ei arferion beunyddiol ef ei hunan ar linellau asgetaidd a thlododd ei hunan lawer tro gan rannu ei eiddo ag eraill. Dadleuon ar fedydd, ag Annibynwyr Seisnig, a ddaeth ag ef gyntaf i'r amlwg (1781), ac o 1788 hyd 1791 bu ef a Benjamin Evans o'r Drewen yn dadlau yn Gymraeg ar y pwnc. Ysywaeth, collai Richards bob rheolaeth ar ei dymer wrth ddadlau - meddai ei gyd-heretig digon pigog Charles Lloyd amdano: 'His irritability was incredible.'

Yn wleidyddol, cyffelyb oedd Richards i'w gyfaill Morgan John Rhys. Edmygai America'n ddirfawr - gadawodd ei lyfrgell i brifysgol Rhode Island, a'i gwnaeth yntau'n ddoethur; credai'n ffyddiog yn stori'r 'Madogiaid' Casâi Babyddiaeth, eto cefnogai ryddfreinio Pabyddion Prydain. Croesawodd y Chwyldro Ffrengig, ac amddiffynnodd ei egwyddorion; o ddadleuon y rhyfel y cododd ei Reflections on French Atheism and English Christianity, 1794, a'i Food for a Fast-day, 1795, a gyhoeddodd hefyd yn Gymraeg, Ymborth ar Ddydd-Ympryd. Cyffrowyd ef yn ddirfawr gan yr erlid ar rai o Ymneilltuwyr Dyfed, a ddaeth yn sgîl tiriad y Ffrancwyr yn 1797 - di-enw yw'r pamffled Cŵyn y Cystuddiedig, 1798, a'i fersiwn Saesneg The Triumphs of Innocency, ond nid oes neb yn amau nad Richards oedd yr awdur.

Cyn ac wedi'r ymraniad (1799) ymysg Bedyddwyr de-orllewin Cymru, rhuthrodd Richards i'r maes i ymosod ar Galfiniaeth ac ar dueddiadau 'Methodistaidd' arweinyddion y Bedyddwyr Calfinaidd. Bwriodd allan res o Bapurynnau Achlysurol, sydd heddiw'n brin i'w ryfeddu. Ei brif wrthwynebwyr oedd Evan Jones o Aberteifi a ' Gomer' (Joseph Harris), ac y mae'r iaith yn ffyrnig, yn enllibus o ran hynny, o boptu. O 1805 (pan fu farw ei wraig, merch Maneian Fawr gerllaw Parc-Nest), bu Richards fyw fel meudwy am gyfnod maith. Yn y blynyddoedd hyn y cyhoeddodd ei History of Lynn (dwy gyfrol), 1812, a ganmolir gan wŷr cyfarwydd, a'i bapurau (yn y Monthly Repository) a gasglwyd yn gyfrol, The Welsh Nonconformists' Memorial, yn 1820. Ymgadwai at nifer bychan o gyfeillion a ymwelai ag ef. Bu farw 13 Medi 1818.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.