Ganwyd 23 Chwefror 1740 yn Ffynnon Adda, plwyf Meline, Sir Benfro. Ymadawodd â'r ysgol yn Hwlffordd am fferm ei dad yn 15 oed. Yr oedd ei dad yn ddiacon gyda'r Bedyddwyr, ond aeth ef gyda'i fam yn aelod at yr Annibynwyr yn Nhrewyddel yn 24 oed. Dechreuodd bregethu yno, ac urddwyd ef yn weinidog yn Llanuwchllyn yn 1769. Lledodd derfynau ei enwad yn y Gogledd yn wyneb gwrthwynebiad ac erlid, a chafodd ddedfryd y llys yn Llundain i orfodi'r ustusiaid i recordio ty at bwrpas addoli yn y Cutiau, plwyf Llanaber. Symudodd i eglwys Albany, Hwlffordd, yn 1777, ac oddi yno i'r Drewen, ger Castellnewydd Emlyn, ymhen dwy flynedd. Daeth yn arweinydd amlwg yn y De. Yr oedd yn Galfin uchel am flynyddoedd a daliai ar bob cyfle i wrthwynebu Arminiaid ac Undodiaid y cylch. Cymedrolodd ei Galfiniaeth cyn diwedd ei oes. Trwy ei lafur ef yn bennaf y sefydlwyd eglwysi Hawen, Glynarthen, Penrhiwgaled, Pisga, a Capel-y-wig, a gofalai amdanynt.
Cyhoeddodd Llythyrau at gyfaill, ar y pwngc o fedydd , 1788, a barodd ddadl rhyngddo a'r Dr. William Richards o Lynn. Cyfieithodd Crefydd Gymdeithasol Mathias Maurice, 1797, a chyhoeddodd hefyd bamffledau yn cynnwys pregethau ac emynau, a chatecismau i'r ysgol Sul, ac ef oedd prif arloesydd y mudiad hwnnw yn y gymdogaeth.
Bu farw 2 Mawrth 1821, a chladdwyd ef dan y pulpud yn Hawen.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.