Ganwyd yn 1684; mab i deiliwr o Landdewi Efelffre, Sir Benfro, a theiliwr ei hunan, fel yr edliwir yn angharedig iddo gan Jeremy Owen. Ymaelododd yn eglwys Henllan Amgoed, ac aeth i Gaerfyrddin at William Evans i baratoi at y weinidogaeth; yno, mae'n debyg, yr oedd ar adeg yr ymraniadau cyntaf yn eglwys Henllan (1707-9). Yn yr ail ymraniad yno (1711) ymunodd Maurice a Henry Palmer ac eraill a aeth drosodd i Ryd-y-ceisiaid.
Yn gynnar yn 1713 urddwyd ef yn weinidog Annibynnol Olney (swydd Buckingham), ond ym mis Tachwedd 1714 galwyd ef i Rothwel ('Rowel'), Swydd Northampton, yn olynydd i Richard Davis - olyniaeth naturiol, pan gofiwn yr Uchel-Galfiniaeth a'r gred mewn hunan-lywodraeth gynulleidfaol ddiamod a arddelasai Maurice yn Henllan.
Yn 1726, sgrifennodd draethawd bychan, Byr a chywir Hanes Eglwys Rhydyceished yn eu Nheulltuad o Henllan, trwy y Blynyddoedd 1707, 1708, 1709, a gyhoeddwyd fel atodiad i'w lyfr Y Wir Eglwys, yn 1727 (adargraffwyd ef gan D. M. Lewis yn Y Cofiadur, 1925, 41-9); ateb i hwn oedd pamffled Jeremy Owen, Golwg ar y Beiau, etc., 1732. Cyhoeddodd nifer o lyfrau Saesneg, yn eu plith Monuments of Mercy (1729), A modern question affirmed and approved (1739). Enwir gweithiau a chyfieithiadau Maurice yn Llyfryddiaeth y Cymry, dan 1711, 1720, 1727, 1733, 1734, 1759.
Ei waith gwreiddiol mwyaf poblogaidd oedd Social Religion Exemplified, 1759, a oedd erbyn 1860 wedi mynd drwy saith argraffiad. Cyfieithwyd talfyriad y Dr. Edward Williams ohono yn Gymraeg, gan Benjamin Evans, Drewen, yn 1797, a'r cwbl ohono gan Evan Evans, Nanty-glo, yn 1862 - aeth y naill a'r llall i fwy nag un argraffiad.
Bu Maurice farw yn Rothwell ar 1 Medi 1738; bu ei weddw Elizabeth farw 8 Hydref 1771, yn 73 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.