Gŵr o Sir Aberteifi, a fu ar y cychwyn yn ysgolfeistr yn Llundain, ond a urddwyd yn 1689 yn weinidog ar eglwys Annibynnol Rothwell (seinier ' Rowel'), Swydd Northampton. Achosodd ei weinidogaeth yno ddadlau mawr ymysg Ymneilltuwyr : (1) cyhuddid ef o bregethu athrawiaethau Antinomaidd; (2) cas gan ei gydweinidogion mwy academaidd eu naws oedd ei ddulliau 'diwygiadol' wrth bregethu, a'r defnydd helaeth a wnâi o bregethwyr teithiol lleyg; (3) bu ei gyndynrwydd ym mhlaid y ffurflywodraeth 'gynulleidfaol,' a'i elyniaeth at y 'classis' Presbyteraidd, yn gryn symbyliad i'r Annibynwyr Seisnig i ymado â'r ' Undeb ' a wnaethpwyd yn 1690 rhwng Presbyteriaid ac Annibynwyr. Un o feirniaid pwysicaf Davis oedd Daniel Williams. Yn 1692, ataliodd y ' Common Fund ' ei chymorth ariannol rhag Davis, h.y. fe'i bwriwyd allan o'r ' Undeb.' Bu farw 10 Medi 1714. [Ar ei feddfaen yn eglwys blwyf Rothwell rhoir dyddiad ei farw yn 11 Medi a'i oed yn 56.] Ei olynydd yn Rothwell oedd Mathias Maurice.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.