Ganwyd 8 Mawrth 1804 yn Gellillyndu, Llanddewi-brefi, Sir Aberteifi, mab Dafydd Evans a ymfudodd i America yn 1833. Yn 1824 aeth i sir Fynwy a bu'n cadw ysgol ym Mhontypŵl, y Goetre, a Nantyglo. Yr oedd ei rieni wedi bod yn aelodau gyda Daniel Rowland yn Llangeitho a dechreuodd yntau bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1825. Tua 1830 daeth yn ddirwestwr, ac erlidiwyd llawer arno oherwydd ei ddaliadau. Ymunodd â'r Annibynwyr yn 1847 yng Nghendl (Brycheiniog), a bu'n weinidog yn Llangiwg, Sir Forgannwg, 1852-3, Risca a Machen, sir Fynwy, 1855-7, a Risca yn unig, 1857-60. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd. Yn 1869 ymfudodd i America lle'r oedd merch iddo ac eraill o'i deulu eisoes, gan gartrefu yn Oakhill, Ohio. Teithiodd lawer yno gan bregethu i bob enwad. Symudodd i Curtis, Arkansas, yn 1881; sefydlwyd yr eglwys Gymraeg gyntaf yn y dalaith yno yn fuan wedyn a bu'n gofalu amdani hyd ei farw, 29 Hydref 1886, yn 83 mlwydd oed. Mab iddo oedd Beriah Gwynfe Evans.
Yr oedd yn awdur nifer o lyfrau a chyfieithiadau, sef Y Cyfammod Gweithredoedd, 1833, 1842; Ffordd Duw yn y Cyssegr a'r Môr, crynhoad o amryw bregethau, 1842, 1852; Athrawiaeth a Dyledswydd, dwy gyfrol o bregethau, 1865, 1866; Tystiolaeth Ostyngedig i Ddaioni a Thoster Duw, cyfieithiad o waith gan John Owen, D.D., 1843; Corff Duwinyddiaeth sef Golwg Gryno ar Grefydd Naturiol a Datguddiedig, cyfieithiad o A compendious view of Natural and Revealed Religion, John Brown, Haddington, 1845; Arweinydd i iawn ddeall ymadroddion Duw neu Allwedd i'r Bibl, cyfieithiad o A brief concordance to the Holy Scriptures, John Brown, Haddington, 1847; Prawf o Gynnydd y Cristion, cyfieithiad o The Tryall of a Christian's Growth, Thomas Goodwin, 1847; Codiad a Chwymp Pabyddiaeth, cyfieithiad o The Rise and Fall of Papacy, Robert Fleming, Ieu., 1849; Crefydd Gymdeithasol, cyfieithiad o Social Religion exemplify'd, Mathias Maurice, 1862; hefyd cyhoeddodd Allwedd Ddirgel y Nefoedd neu Resymau dros Ystafell Weddi, cyfieithiad y Parch. W. Williams, Talgarth, o The privie Key of Heaven, Thomas Brooks, 1845. Bu'n olygydd cyhoeddiad, Cyfaill Plentyn, a ymddangosodd gyntaf yn 1835, a cheir ganddo 'Atgofion Pedwar Ugain mlynedd' yn Cyfaill yr Aelwyd (vi a vii).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.