Ganwyd 27 Medi yn Henllan, fferm fechan rhwng Eglwyswrw a Felindre, gogledd Penfro, yn hynaf o bum plentyn Evan Lewis (1813 - 1896), gweinidog eglwys Annibynnol Brynberian, a'i briod, Catherine Morgan, o blwyf Llangan, ger Tŷ-gwyn-ar-Daf, a chwaer i William Morgan, athro yng Ngholeg Caerfyrddin. Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol Palmer, Aberteifi, ac yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin. Yn 1872 aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt, lle y graddiodd a'i restru ymhlith y 'wranglers'; yn ddiweddarach bu'n astudio yn y Cavendish Laboratories.
Dechreuodd bregethu'n ieuanc, ac yn 1878 ordeiniwyd ef yn weinidog eglwys Saesneg yr Annibynwyr yn Hirwaun. Wedi bod yno am bum mlynedd rhoes y weinidogaeth i fyny a dychwelyd i Gaergrawnt am flwyddyn arall.
Yn 1884 penodwyd ef yn ddarlithydd mewn anianeg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, ac yn 1891 yn athro anianeg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, lle y bu nes ymddeol ohono yn 1919.
Er iddo adael y weinidogaeth yn ŵr ieuanc, bu'n flaenllaw mewn cylchoedd Annibynnol ar hyd ei oes. Bu'n gadeirydd Undeb yr Eglwysi Annibynnol Saesneg yn Neheudir Cymru ac yn gadeirydd pwyllgorau colegau Caerfyrddin ac Aberhonddu.
Ysgrifennodd gofiant i'w dad, Cofiant … Evan Lewis, Brynberian, 1813-96, a gyhoeddwyd yn 1903. Ar ôl ymddeol, gwnaeth astudiaeth arbennig o hanes ei enwad, ac o emynyddiaeth Gymraeg, yn enwedig emynau Ann Griffiths, a chyhoeddodd amryw erthyglau ar y pynciau hyn mewn cylchgronau, e.e. Y Llenor, 1924, Y Cofiadur, 1925 a 1934.
Priododd Annie Margaret, merch T. Powell, Carreg Cennen, Llandeilo. Bu farw 28 Gorffennaf a'i gladdu yn Aberystwyth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.