Ganwyd fis Ebrill 1776 yn Dolwar Fach, Llanfihangel yng Ngwynfa, Sir Drefaldwyn, (bedyddiwyd 21 Ebrill 1776), merch John (bu farw c. Chwefror 1804) a Jane Thomas (bu farw 1794). Yr oedd ei rhieni yn mynychu eglwys y plwyf. Cawsant bump o blant (1) Jane, 1767, (2) John, 1770, (3) Elizabeth, 1772, (4) Ann, a (5) Edward (1779). Ymdriniwyd yn helaeth â'r plant (a'u disgynyddion) gan David Thomas, yn Eurgrawn 1959-60, ac yn Ann Griffiths a'i theulu (1963). Priodwyd Jane yn 1794 â Thomas Jones, siop Ty Cornel, Llanfyllin, a merch i'w hwyr John Jones oedd Margaret Jane Jones, priod y gweinidog a'r llenor Owen Jones (1833 - 1899); bu hi farw yn Ionawr 1909.
Yr oedd yn hoff o fywyd ysgafn yn ei hieuenctid, ond dwysaodd ar ôl gwrando ar Benjamin Jones, Pwllheli, yn pregethu. Ymunodd â'r seiat Fethodistaidd ym Mhont Robert yn 1797; daeth i gyswllt â John Hughes, athro a phregethwr, a bu'n gohebu llawer ag ef. Âi i sasiynau'r Bala, a buan y gwelwyd ei bod yn ferch allan o'r cyffredin.
Priododd Thomas Griffiths (1779 - 8 Ebrill 1808), ffermwr o Feifod, ar y 10 Hydref 1804, a bu farw yn Awst 1805, ar ôl geni ei chyntaf-anedig; claddwyd hi yn Llanfihangel, 12 Awst.
Adroddai ei hemynau wrth Ruth Evans, ei morwyn; trysorodd hithau hwynt yn ei chof, ac ar ôl ei phriodas â John Hughes fe'u hysgrifennwyd hwynt ganddo mewn dau ysgriflyfr. Ef, mae'n ddiau, a'u rhoes yn llaw Thomas Charles o'r Bala, a chredir mai Robert Jones, Rhos-lan, a'u paratôdd i'w cyhoeddi. Cyhoeddwyd hwynt yn arg. 1805 o Grawn-Syppiau Canaan, ac wedyn (1806) yn Casgliad o Hymnau gan mwyaf heb erioed eu hargraffu o'r blaen (Bala, R. Saunderson). Ymddangosodd arg. arall, dan yr un teitl, o wasg J. Evans, Caerfyrddin, yn 1807; ac un arall eto yn 1808 dan y teitl, Hymnau o Fawl i Dduw a'r Oen (Bala, Saunderson). Cyhoeddwyd cynnwys ysgriflyfrau J. Hughes gan (Syr) Owen M. Edwards yn Gwaith Ann Griffiths ('Cyfres y Fil'), 1905; yn hwnnw bellach y ceir testun gwreiddiol ei hemynau. Nodweddir hwynt gan gyfeiriadau ysgrythurol cymhleth, profiad ysbrydol dwfn, cyfriniol; a ffigurau ymadrodd beiddgar. Ysgrifennwyd hwynt, gan mwyaf, ar y mesur wyth saith clonciog - mesur a rydd gryn drafferth i gerddorion yn ogystal ag i olygwyr casgliadau emynau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.